C.P.D. Merched Briton Ferry Llansawel
Enw llawn | Briton Ferry Llansawel Athletic Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Ferry | ||
Sefydlwyd | 2013 | ||
Maes | Old Road Ground, Briton Ferry (sy'n dal: 2,000[1]) | ||
Cynghrair | Adran South | ||
2023-24 | 1st | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Mae Clwb Pêl-droed Merched Briton Ferry Llansawel (Briton Ferry Llansawel Ladies Football Club) yn glwb pêl-droed merched wedi'i leoli yn Llansawel, ger Castell-nedd. Fel y tim dynion, C.P.D. Briton Ferry Llansawel, mae'r enw yn cyfuno'r enw Cymraeg am Briton Ferry, sef, "Llansawel" a'r enw Saesneg ac yn uniad o ddau glwb gwahanol - "Llansawel F.C." a "Briton Ferry F.C.". Fel tîm y dynion, maent yn chwarae ar faes Old Road yn Llansawel.
Llysenw'r tîm yw "Y Cochion" ('The Reds').
Hanes
[golygu | golygu cod]Fe’i sefydlwyd yn 2013 pan benderfynodd Clwb Pêl-droed Briton Ferry Llansawel AFC gyflwyno pêl-droed merched. O dan arweiniad Ross Norgrove, cychwynnodd y merched yng Nghynghrair Menywod a Merched Gorllewin Cymru West Wales Women and Girls League). Yn eu tymor cyntaf, fe enillon nhw’r gynghrair gan ennill 16 allan o’r 20 gêm gan sgorio 120 gôl yn y broses. Parhaodd y tîm i symud ymlaen gan ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru (Adran Premier bellach, neu 'Adran Genero' wedi'r noddwr cyfredol) ar gyfer tymor 2014/15.
Yn anffodus, disgynnodd y tîm yn y tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair yn ôl i Gynghrair Merched Cymru. Byrhoedlog fu'r diraddiad hwn gan i'r tîm ennill y gynghrair y tymor nesaf a dychwelyd i'r WPWL. Ar ôl ennill Cynghrair Merched Cymru yn nhymor 2017-18[2] i ennill dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth diwrnod olaf y tymor oddi cartref i’r C.P.D. Merched Tref y Barri. Maent ers hynny wedi cwympo nôl i'r Adran De ond ad-ennillon nhw ddyrchafiad yn 2023-24. Mae'r clwb yn rhedeg dau dîm hŷn yn ogystal â thîm ieuenctid dan 19 a thîm dan 16.[3]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Bu i'r clwb ennill Adran Genero De yn 2023-24 gan ddyrchafu i Genero Premier.[4] Roedd hyn ychydig dan deufis cyn i dîm y dynion hefyd ennill dyrcharfiad i Uwch Gynghrair Cymru.[5]
Bu iddynt gyrraedd ffeinal Cwpan Pêl-droed Merched Cymru yn nhymor 2022-23 ond gan golli yn y ffeinal, 4-0, i C.P.D. Merched Dinas Caerdydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Old Road, home to Briton Ferry Llansawel, Briton Ferry Llansawel Ladies - Football Ground Map". www.footballgroundmap.com. Cyrchwyd 8 August 2019.
- ↑ "South Wales Women's & Girls' League - Season Archive". www.swwgl.co.uk. Cyrchwyd 8 August 2019.[dolen farw]
- ↑ "About Us". Gwefan BRITON FERRY LLANSAWEL LADIES. Cyrchwyd 14 Mai 2024.
- ↑ "With the results falling in our favour today, Ferry are confirmed Champions of the Genero Adran South 🏆". Cyfrif Twitter @BFLLAFC. 11 Chwefror 2024.
- ↑ "WBS NATIONAL FINAL". gwefan CPD Briton Ferry Llansawel. Cyrchwyd 14 Mai 2024.