Bwlch Malakand
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Pacistan |
Cyfesurynnau | 34.58°N 71.95°E, 34.58°N 71.95°E |
Gorwedd Bwlch Malakand yn Nosbarth Malakand, Khyber Pakhtunkhwa, yng ngogledd Pacistan. Mae'n cysylltu ardaloedd Dir a Swat.
O'r de mae'r ffordd sy'n dringo i'r bwlch yn cychwyn o Dargai. Heddiw mae'r ffordd o safon da ac yn brysur. Ger pen y bwlch gellir gwelad Camlas Swat yn y dyffryn islaw, a adeiladwyd yng nghyfnod Y Raj i sianelu dŵr o Afon Swat trwy dwnel o dan Bwlch Malakand i ddyfrhau'r iseldir o gwmpas Mardan.
Mae Caer Malakand (Malakand Fort) yn gwarchod y ffordd ar ben y bwlch. Ar ochr Swat mae'r ffordd yn disgyn trwy dref farchnad fechan Bat Khela a heibio i ran uchaf Camlas Swat i Afon Swat. Gorchuddir y llethrau o gwmpas y bwlch gyda choed pin trwchus.
Mae'r bwlch strategol hwn yn dramwyfa hanesyddol sy'n cysylltu'r iseldir i'r de a'r dyffrynoedd mynyddig i'r gogledd. Mae rhai haneswyr yn credu fod mintai o filwyr Alecsander Fawr wedi ei groesi. Yn ddiweddar dyma'r llwybr a gymerodd y Taliban yn Swat i symud i mewn i Dir yn 2008-2009, gyda fawr dim wrthwynebiad. Mae rheoli'r bwlch yn un o nodau Byddin Pacistan yn y rhyfel cyfredol.