Bwlch Apache
Gwedd
| Math | bwlch |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Fort Bowie National Historic Site |
| Rhan o'r canlynol | Butterfield Overland Mail |
| Sir | Cochise County |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,558 metr |
| Cyfesurynnau | 32.1517°N 109.482°W |
| Cadwyn fynydd | Dos Cabezas Mountains |
![]() | |
Bwlch a thramwyfa hanesyddol yn nhalaith Arizona, yr Unol Daleithiau, yw Bwlch Apache (Saesneg: Apache Pass). Fe'i enwir ar ôl y pobloedd Apache, a fu'n byw yn yr ardal. Gorwedd y bwlch 5,110 troedfedd rhwng Mynyddoedd Dos Cabezas a'r Mynyddoedd Chiricahua, tua 32 km (20 milltir) i'r de-ddwyrain o dref Willcox.
Roedd ffynnon groyw Apache Spring, ger y bwlch, yn ffynhonnell dŵr bwysig i deithwyr yn y rhan yma o Arizona. Ar ôl Brwydr Bwlch Apache, rhwng yr Apache dan Cochise a Mangas Coloradas a Byddin yr Unol Daleithiau, codwyd Fort Bowie yn y 1860au i'w hamddiffyn.
