Buller Stadden

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Buller Stadden
Buller Stadden.jpg
Ganwyd 1861 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw 30 Rhagfyr 1906 Edit this on Wikidata
Dewsbury Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Dewsbury Rams Edit this on Wikidata
Safle Mewnwr, Maswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Roedd William James Wood, "Buller" Stadden (1861 - 30 Rhagfyr 1906) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru. Roedd yn chware yn safle'r hanerwr. Bu'n chware rygbi clwb dros dimau Treganna, Caerdydd a Dewsbury. Enillodd Stadden wyth cap dros Gymru dros gyfnod o saith mlynedd ac fe'i cofir fwyaf am sgorio'r cais buddugol ym 1890 i roi i Gymru ei fuddugoliaeth gyntaf dros Loegr.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Stadden yn Nhreganna, Caerdydd yn fab i William Stadden, llafurwr ac Emma ei wraig. Roedd ei rieni yn hanu o Wlad yr Haf. Bu Stadden yn gweithio yng ngwaith papur Elai cyn cael ei gyflogi fel labrwr gan gwmni adeiladu John Gibson. Fel adeiladwr bu'n gweithio ar adeiladu’r eisteddle ym Mharc yr Arfau. [1]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe wnaeth Stadden wneud ei ymddangosiad gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Iwerddon ym 1884 [2] dan gapteiniaeth Joe Simpson ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref. Sgoriodd Stadden gôl adlam yn y gêm. [3] Arweiniodd gôl Stadden ynghyd â cheisiadau gan William Norton a Tom Clapp, at fuddugoliaeth gyntaf Cymru yng Nghymru. Ni ddewiswyd Stadden ar gyfer y twrnamaint nesaf, ond adenillodd ei le ym 1886 gan chwarae yn y ddwy gêm yn y gyfres yn erbyn Lloegr a'r Alban. Collodd Cymru'r ddwy, ond llwyddodd Stadden i sgorio eto, y tro hwn gyda chais, yn y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr. [4]

Ym mis Medi 1886, ymadawodd Stadden, â chyd-aelod o dîm Caerdydd, Angus Stuart, â Chaerdydd gan symud i Dewsbury yng Ngorllewin Swydd Efrog, gan honni nad oedd unrhyw gyfleoedd cyflogaeth iddynt yng Nghymru. Canfuwyd yn ddiweddarach eu bod yn gweithio i gwmni tecstilau oedd yn eiddo i lywydd clwb Dewsbury. [5] Parhaodd i chwarae i Gymru ac i Swydd Efrog. Ef oedd y chwaraewr Cymreig cyntaf i'w "brynu" gan glwb yn Lloegr ac fe ddatblygodd yn seren yn Swydd Efrog, y tîm gorau yn Lloegr ar y pryd. [6]

Roedd dwy gêm nesaf Stadden i Gymru yn erbyn Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth 1887, mewn partneriaeth â John Goulstone Lewis, a'r Alban ym 1888 gyda Jem Evans, cyd aelod o dîm Caerdydd. Bu Cymru'n fuddugol yn y ddwy. Ym 1888 bu Cymru'n wynebu tîm tramor ar daith am y tro cyntaf pan ymwelodd tîm brodorion Seland Newydd a Phrydain, bu Cymru'n fuddugol. Daeth gemau olaf Stadden i Gymru ym Mhencampwriaethau'r Gwledydd Cartref ym 1890. Collwyd y gêm yn erbyn yr Alban ar Barc yr Arfau. Yr ail gêm oedd buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru dros Loegr [6]. Stadden oedd arwr y gêm ar ôl sgorio unig bwynt y gêm a chwaraewyd yn Dewsbury.

Y tîm rygbi Gymreig gyntaf i Guro Lloegr, 1890


Gemau Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar noson y Nadolig 1906 tagodd Stadden ei wraig i farwolaeth yn eu gwelu. Wedyn ceisiodd torri ei wddf ei hun cyn troi ei hun drosodd i'r heddlu. Bu farw tridiau yn ddiweddarach [8]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Dewsbury. [9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "STADDENSCAREER - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1906-12-29. Adalwyd 2018-11-26. 
  2. "WELSH FOOTBALL UNION - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-03-31. Adalwyd 2018-12-09. 
  3. "FOOTBALL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1884-04-19. Adalwyd 2018-12-09. 
  4. "FOOTBALL - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1886-01-09. Adalwyd 2018-12-09. 
  5. "PROFESSIONAL FOOTBALL - The Western Mail". Abel Nadin. 1886-10-02. Adalwyd 2018-12-09. 
  6. 6.0 6.1 Western Mail 14 mai 2011 Buller, hero of 1890 try adalwyd 9 Rhagfyr 2018
  7. Buller Staddan proffil chwaraewr Scrum.com
  8. "A MURDERER'S DEATH - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1907-01-05. Adalwyd 2018-12-09. 
  9. "STADDEN LAID TO REST - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-01-02. Adalwyd 2018-12-09. 

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Ferndale, Glamorgan: Ron Jones Publications.
  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Grafton Street, London: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Budd, Terry (2017). That Great Little Team On The Other Side Of The Bridge:The 140 Year History of Canton RFC (Cardiff) Season 1876-77 to 2016-17. Penarth, Glamorgan: Beacon Printers Ltd.