Bryniau Galloway

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bryniau Galloway
Math gwrthrych daearyddol, cadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Parc Coedwig Galloway Edit this on Wikidata
Sir Galloway Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 300 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 55.12°N 4.41°W Edit this on Wikidata

Lleolir Bryniau Galloway yn Ucheldir Deheuol (Southern Uplands) yr Alban, lle maent yn ffurfio ffin ogleddol gorllewin Galloway. Gorweddant o fewn ffiniau Parc Fforest Galloway, ardal o tua 300 milltir sgwar o dir anial heb fawr o drigolion yn byw yno a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth. Merrick (843m) yw'r pwynt uchaf. Ceir nifer o enwau lleoedd unigryw yno, sy'n tarddu o gymysgiad o elfennau Hen Norseg a Gaeleg yr Alban.

Golygfa ar y Rhinns of Kells, Bryniau Galloway.

Cysylltir y bryniau ag un o'r digwyddiadau mwyaf adnabyddus yn hanes yr Alban, sef enciliad Robert I, brenin yr Alban (Robert the Bruce) o flaen byddinoedd Edward I o Loegr a'i gyfnod ar ffo yn ei wlad ei hun ym Mryniau Galloway gyda dim ond llond llaw o gefnogwyr ffyddlon. Ar ôl hynny llwyddodd i adennill ei deyrnas. Ar achlysur 600 mlwyddiant marwolaeth y Bruce, gosodwyd carreg ger Glentrool i'w goffhau yn 1926. Mae'n atyniad twristaidd heddiw.

Carreg Bruce (Bruce's Stone), Glentrool.
Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato