Brwynen babwyr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Juncus effusus
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Poales
Teulu: Juncaceae
Genws: Juncus
Rhywogaeth: J. effusus
Enw deuenwol
Juncus effusus
Carl Linnaeus
Cyfystyron
  • Juncus communis E.Mey.

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon sy'n edrych yn debyg i wair yw Brwynen babwyr sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Juncaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Juncus effusus a'r enw Saesneg yw Soft-rush.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Brwynen Babwyr, Cannwyll Frwynen, Canwyllfrwynen, Pabwyren.

Mae'n tyfu'n araf iawn - a hynny ar bridd da, cyfoethog, mewn pob math o amrywiaeth o ran gwlybaniaeth eu cynefin; mae i'w ganfod yn aml mewn gwlyptiroedd. Mae'r planhigyn yn ddeurywiol ac mae'r dail yn fytholwyrdd.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o'r pryfed mwyaf cyffredin i'w weld yn gysylltiedig â'r frwynen babwyr yw cloriau bach lindys y gwyfyn Coleophora caespitella sydd â chylch bywyd lled unigryw sy'n cynnwys amddiffyn y lindys mewn cocŵn bapuraidd symudol.

Pupal cases of Coleophora caespitiella on J. effusus.

Traddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Morthwyl sinc

Gwneir nifer o deganau plant o frwyn (y frwynen babwyr yw'r debycaf o gael ei defnyddio), gyda gemau sydd wedi datblygu ohonynt, er enghraifft, cychod hwylio, ac weithiau, ratl babi. Mae enw astrus ar yr ail o rhain, sef "morthwyl sinc". Mae'r grefft o'u gwneud yn marw o'r tir, ond dyma'r diweddar Bert Parry yn sôn am grefft ei blentyndod:

Y diweddar Bert Parry, Llanberis, yn gwneud tegan ratlo o frwyn a elwir yn morthwyl sinc.
Morthwyl sinc neu ‘rygarug’, sef ratl plentyn o wneuthuriad brwyn neu wellt

Dyma drawsgrifiad o bwt allan o recordiad a wnaed o sgwrs ym mis Rhagfyr 2009 gyda Bert Parry, am atgofion ei blentyndod yn Llanberis.

D: Welist ti yn Llên Natur [Rhifyn 9] am y Dinpan Foresg ...beth ddoth i dy feddwl di?

Bert: ...oni'n gneud mothwl sinc, mothwl sinc dan i’n ddeud 'de - rattle yn Saesneg -

D: Tegan plentyn ydi hwn ia?

Bert: Ia neu'n addurn hefyd..wedi ei wneud allan o frwyn, well efo ŷd wrth reswm, mae o'n gletach ac yn well...a tydwi'm yn gwbod lle ddysgish i i wneud, dwi di 'neud o ers pan o'n i'n hogyn bach...

D: Pam ‘sinc’ dwad?

Bert: Dwi’m yn gwbod. Tasa na frwyn yn fa'ma faswn i gwneud un rwan i chdi - eiliad faswn i yn ei wneud o....dwi'n dal i gofio sut i neud o, plethu'r brwyn, cael brwyn go dda, go hir...rhoi cerrig neu beth bynnag i mewn iddo fo...efo yd mae'n gneud swn gydol yr amser a fedri di farnisho nhw ...ond efo brwyn mae nhw'n mynd yn feddal a ma'r sŵn yn mynd allan ohonyn nhw ac mae nhw'n hongian ac yn mynd yn fler...

Dywedodd Bert hefyd ei bod hi’n amhosibl i wneud morthwyl sinc o ŷd bellach gan nad yw ŷd yn tyfu’n ddigon tal, cymaint o fridio a fu ar gyfer had ar draul coes[2]

Dyma ddetholiad o ddwy ran arall o'r recordiad a wnaed o Bert yn sôn am ei ardal enedigol o gwmpas Llanberis tua diwedd ei oes.[3]

Mae'n bosibl bod y morthwyl sinc neu gleciwr plentyn yn rhan o draddodiad byd-eang. Fe'i hadnabyddir yn y Wyddelig fel gogán neu 'googhaun'. Meddai'r hanesydd Wyddelig Ann O'Dowd (cyfieithiad):

Y cleciwr (rhuglen) wedi ei wneud o frwyn neu wiail helyg gawsai’r sylw mwyaf o’r holl degannau. Credai Estyn Evans[4] bod y clecwyr Gwyddelig o'r un gwneuthuriad sylfaenol â'r rhai o Tseina o wneuthuriad gwair wedi ei gordeddu. Roedd Dorothy Hartley[5] yn gyfarwydd â chlecwyr ym Mhrydain. Bu John O’Leary yn ysgolfeistr yn Ballyfarna, Claremorris, Swydd Mayo, yn y 1940au a 1950au. Fe roes y clecwyr a wnaethpwyd gan ei ddisgyblion i’r amgueddfa ac fe ddisgrifiodd y dull a ddefnyddiodd y plant i’w gwneud yn O’Dowd 2016[6]

Dyma Andrew Hawke [7]

Rwy'n credu mai 'tin rattle' yw ystyr 'morthwyl sinc', gw. [1] - rhai ohonynt yn debyg iawn i forthwyl!
Mae 'sinc' yn digwydd yn aml am 'tin, tinplate'. Mae 'morthwyl sinc' ddigon cyffredin i gael ei ddefnyddio mewn diffiniadau tair erthygl yn GPC (ratl, rhegen(2), sgrad) fel y Gymraeg sy'n cyfateb i'r Saes. '(baby's) rattle'.
Mae'r erthygl yn y Bwletin (The Bulletin Of The Board Of Celtic Studies)(sy'n rhy hen i fod ar gael ar lein, gyda llaw) yn sôn am 'Ymadroddion a gwerin-eiriau Cwm Abergeirw': "mwrthwl sinc: [morthwyl s.], 'baby's rattle'."
  • Cannwyll frwyn
Pennill o waith y diweddar Evan Evans, Nant Melai, yn dweud sut i wneud cannwyll frwyn:
Y Gannwyll Frwyn
Hel brwyn, rhyw ddyrnaid
A'u blingo gan adael cynhaliaeth
Yna eu tynnu trwy ferwedig wer dafad
A'r ganwyll frwyn fydd yn ganlyniad.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Bwletin Llên Natur rifyn 11, tudalen 3
  3. https://llennatur.cymru/Llais
  4. Evans, E. (1957) Irish Folk Ways
  5. Hartley, 1939
  6. O’Dowd, A. (2016) Straw, Hay & Rushes in Irish Folk Tradition (Irish Academic Press)
  7. A. Hawke (Gol. Geiriadur Prifysgol Cymru (sylw pers. ebost)
  8. Diolch i Mrs Eirwen Johnson, Abergele, [gynt o Wytherin] am anfon y bennill uchod at bapur bro y Bedol
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: