Brwydr Ynys Môn
Math | brwydr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.25401°N 4.072157°W |
Brwydr rhwng y Rhufeiniaid a brodorion Môn, a ymladdwyd yn 61 O.C. oedd Brwydr Ynys Môn lle lladdwyd miloedd o Dderwyddon.
Yn 59 penodwyd Gaius Suetonius Paulinus yn llywodraethwr Prydain yn lle Quintus Veranius, oedd wedi marw tra'n llywodraethwr. Bu'n ymladd am ddwy flynedd yn erbyn llwythi Cymru ac yn 61 ymosododd ar Ynys Môn. Roedd yr ynys yn amlwg o bwysigrwydd arbennig, nid yn unig yn noddfa i ffoaduriaid oddi wrth y Rhufeiniaid ond yn gadarnle y Derwyddon. Croesodd y Rhufeiniaid Afon Menai mewn cychod, ond er bod cryn dipyn o drafod wedi bod nid oes sicrwydd ymhle y croesodd. Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi disgrifiad byw o'r olygfa ar lannau Môn, gyda'r Derwyddon a merched Môn yn gymysg a'r rhyfelwyr. Cipiodd Paulinus yr ynys a thorri coed y llennyrch sanctaidd.