Brwydr Dupplin Moor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad 11 Awst 1332 Edit this on Wikidata
Rhan o Ail Ryfel Annibyniaeth yr Alban Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 10 Awst 1332 Edit this on Wikidata
Daeth i ben 11 Awst 1332 Edit this on Wikidata

Ymladdwyd Brwydr Dupplin Moor ar 10–11 Awst 1332 rhwng byddin dilynwyr Dafydd II, a oedd wedi ei goroni yn frenin yr Alban y flwyddyn flaenorol, a oedd yn fachgen wyth oed ar y pryd, a byddin ymgyrchol Edward Balliol, a oedd yn hawlio'r orsedd. Roedd maes y gad yn agos i dref Perth, yr Alban.

Cafodd Balliol gefnogaeth Edward III, brenin Lloegr yn ei ymgyrch i gipio'r orsedd. Cafodd hefyd gymorth mwy ymarferol Henry de Beaumont, Sais a fforffedodd ei diroedd yn yr Alban. Hwyliodd lluoedd y gwrthryfelwyr ynghyd â'u cynghreiriaid Seisnig o Swydd Efrog i Kinghorn, Fife. Oddi yno fe fe ymdeithion nhw i Dunfermline ac ymlaen i gyfeiriad Perth. Ar 10 Awst gwersyllon nhw yn Forteviot, i'r de o Afon Earn. I'r gogledd o'r afon roedd gwersyll byddin y teyrngarwyr, a hynny dan orchymyn Iarll Mar. Croesodd lluoedd Balliol yr afon dan lenni'r nos i ennill uchelfan ar gyfer brwydr y diwrnod canlynol. Yn ystod y frwydr cafodd lluoedd Mar, yn anhrefnus ac ag arfwisg wael, eu llethu gan holl saethwyr eu gwrthwynebwyr. Cyflafan oedd y canlyniad.

Roedd Balliol yn fuddugol, ac ychydig wythnosau yn ddiweddarach coronwyd ef yn Scone, er iddo gael ei orfodi i ffoi o'r Alban yn fuan wedi hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]