Brinley Richard Lewis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brinley Richard Lewis
Ganwyd 4 Ionawr 1891 Edit this on Wikidata
Pontardawe Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Ebrill 1917 Edit this on Wikidata (26 oed)
Ieper Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Tîm/au Barbarians, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, London Welsh RFC, Cambridge University RUFC., Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
Safle Asgellwr Edit this on Wikidata

Roedd yr uwchgapten Brinley "Bryn" Richard Lewis (4 Ionawr 18912 Ebrill 1917) yn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru, a fu hefyd yn chwarae rygbi i dimoedd Casnewydd a Phrifysgol Rhydychen. Mae’n un o’r deuddeg chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a fu farw ar wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ganwyd Bryn Lewis ym Mhontardawe, Cymru ar y 4ydd o Ionawr 1891. Roedd ei rieni'n berchen gwaith haearn Glantawe, Pontardawe. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Abertawe, lle bu'n gapten y tîm rygbi, gan chwarae i dîm bechgyn ysgol Cymru ym 1905. Aeth ymlaen i ddarllen y gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, gan ennill ei le yn nhîm rygbi'r coleg, lle’r enillodd 3 ‘blue’ wrth gael ei ddewis ar gyfer tair gêm ‘Varsity’ yn olynol i’r brifysgol rhwng 1909-11. Byddai hefyd yn chwarae i dîm rygbi Pontardawe yn ystod y gwyliau, ac ymunodd a thîm Abertawe[1] yn ystod tymor 1909-10.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth y Pum Gwlad yn ystod tymor 1911-12.

Roedd tîm Cymru’n ddibrofiad a collwyd y gêm o 12-5, ac fe gafodd Bryn Lewis ei feirniadu'n hallt gan y wasg. Llwyddodd i ad-ennill ei enw da yn ystod y tymor canlynol yn chwarae i dîmoedd Abertawe, Morgannwg a Chaergrawnt. O ganlyniad, cafodd gyfle arall i chwarae i Gymru yn erbyn Iwerddon ym 1912-13. Sgoriodd Lewis ddwy gais yn y gêm a welodd Cymru'n ennill o drwch blewyn. Cafodd gyfle i chwarae dros y Barbariaid yn ystod y Pasg yr un flwyddyn. Chwaraeodd eto dros y Barbariaid ym mis Ebrill 1914, ond cafodd ei hepgor o dîm Cymru yn nhymor 1913-14.

Cychwynodd ar swydd fel clerc erthyglog yn Abertawe ym 1914, ac ymunodd a Iwmyn Morgannwg ym mis Hydref 1914. Fel rhan o gynllun recriwtio'r fyddin, trefnwyd gêm arbennig ar Barc yr Arfau ym mis Ebrill 1915, a dyma'r tro olaf i Bryn Lewis chwarae gêm fawr o rygbi dros Gymru. Er mwyn cynyddu'r diddordeb yn y gêm, gwerthwyd y gêm fel gêm ryngwladol answyddogol yn erbyn Lloegr. Collodd Cymru'r gêm o 26-10, ond sgoriodd Bryn Lewis gais.

Ymunodd a'g adran arfog y 38th Welsh Division yn fuan wedi hyn, a chyrraedd Ffrainc ar ddydd Nadolig, 1915. Brwydrodd ym mrwydr Mametz Wood, cyn i'r gatrawd symud ymlaen o'r Somme i Ypres. Penodwyd Bryn Lewis yn brif swyddog ac uwchgapten y "B Battery 122 Brigade RFA". Yn ystod daib yn y frwydr, a thra'n ymlacio'n bwyta ei frecwast gyda chyd swyddog, trawyd y ddau gan siel strae.[2] Lladdwyd y ddau, ac fe'u claddwyd ym mynwent 'Frme-Olivier, Elverdinge, ger Boeshinge.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwyn Prescott, 'Call them to Rememberance': the Welsh rugby internationals who died in the Great War, Caerdydd, 2014

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]