Brigham Young

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brigham Young
Brigham Young by Charles William Carter.jpg
Ganwyd 1 Mehefin 1801 Edit this on Wikidata
Whitingham Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Awst 1877 Edit this on Wikidata (76 oed)
Achos: llid y berfeddlen Edit this on Wikidata
Salt Lake City Edit this on Wikidata
Galwedigaeth diwinydd, saer coed, proffwyd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Governor of the Territory of Utah Edit this on Wikidata
Priod Mary Ann Angell, Eliza R. Snow, Zina D. H. Young, Ann Eliza Young Edit this on Wikidata
Plant Susa Young Gates Edit this on Wikidata
Teulu Phineas Young, Joseph Young, Lorenzo Dow Young Edit this on Wikidata
Llofnod
Brigham Young Signature.svg

Un o arweinwyr amlycaf Mormoniaeth yn yr Unol Daleithiau oedd Brigham Young (1 Mehefin 1801 - 29 Awst 1877). Ef oedd arweinydd symudiad y Mormoniaid tua'r gorllewin, a sefydlydd Salt Lake City yn Utah.

Ganed Young yn Vermont, a bu'n gweithio fel saer a gôf. Cafodd droedigaeth at Formoniaeth wedi darllen Llyfr Mormon yn fuan wedi ei gyhoeddi yn 1830. Daeth yn flaenllaw fel cenhadwr ac arweinydd. Yn 1844, llofruddiwyd arweinydd y mudiad, Joseph Smith. Symudodd carfan sylweddol o'r Mormoniaid tua'r gorllewin dan arweiniad Young, a sefydlwyd Salt Lake City yn 1847. Apwyntiwyd ef yn rhaglaw cyntaf Tiriogaeth Utah gan yr Arlywydd Millard Fillmore, yn ogystal a bod yn arweinydd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.

Roedd Young yn adnabyddus am ei gred mewn amlwreigiaeth; bu ganddo 55 o wragedd i gyd a chafodd 56 o blant.