Bretforton
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Ardal Wychavon |
| Poblogaeth | 1,052, 1,190, 1,023 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 689.27 ha |
| Cyfesurynnau | 52.095°N 1.8668°W |
| Cod SYG | E04010368 |
| Cod OS | SP092440 |
| Cod post | WR11 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Bretforton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Wychavon. Saif tua 4.4 milltir (7.1 km) i'r dwyrain o Evesham, yn Nyffryn Evesham.
Maint y plwyf sifil yw 6.89km². Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 1,052.[2]
Mae neuadd y pentref, tafarn (Tafarn y Fleece), clwb y Lleng Brydeinig, eglwys (Eglwys Sant Leonard) a 2 ysgol. Soniodd dogfen Sacsoniaid am "Brotfortun" yn 714, yn golygu "Rhyd gyda estyll", efallai yn cyfeirio at bont bren yn ymyl y rhyd. Mae’r pentref yn sefyll ar hen ffermdir Abaty Evesham.
Mae’r pentref yn cynnal gŵyl ferllys, sy’n dechrau ym mis Ebrill ac yn parhau am chwe wythnos.[3] Mae gan y pentref fand arian, sy’n dyddio o 1895, pan oedd o Band Dirwestol Bretforton.[4] Mae hefyd clwb criced, sy’n chwarae yng Nghyngrair Criced Bryniau’r Cotswolds.
Agorwyd ysgol y pentref ar 26 Mehefin 1877. Daeth yn academi ar 30 Ionawr 2018.[5]
- Eglwys Sant Leonard
- Tafarn y Fleece
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
- ↑ City Population; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
- ↑ "Gwefan y Fleece". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-16. Cyrchwyd 2020-06-16.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-12. Cyrchwyd 2020-07-03.
- ↑ "Gwefan Ysgol y Pentref". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-16. Cyrchwyd 2020-06-16.
