Tafarn y Fleece, Bretforton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bretforton02LB.jpg
Stordy a'r ysgubor

Mae Tafarn y Fleece yn dafarn ym mhentref Bretforton, Swydd Gaerwrangon, ger Evesham. Adeiladwyd y tafarn yn ystod y bymthegfed ganrif gan ffarmwr o’r enw Byrd. Roedd y teulu’n berchnogion y tafarn hyd at 1977, pan roddwyd y tafarn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Lola Taplin, disgynnydd o’r teulu Byrd.[1] Gwelir tylluan ar do’r ysgubor, a dywedir gan bobl leol bod ysbryd Lola Taplin ydy hi.[2]

Cynhelir cyngerddau gwerin yn ysgubor y tafarn, ac mae’r tafarn yn cynnal amrywiaeth o wyliau, gan gynnwys Gŵyl ferllys ym mis Ebrill a Gŵyl Afalau a Chwrw yn mis Hydref.[3] Mae arwerthiannau merllys yn y tafarn ym mis Mehefin a Dawns Morus yng ngardd y tafarn.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

WorcsCoatArms.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerwrangon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.