Neidio i'r cynnwys

Brech y mwnci

Oddi ar Wicipedia
Brech y mwnci
Enghraifft o:dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd, clefyd hysbysadwy Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus firol, Poxviridae infectious disease, milhaint, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauY dwymyn, cur pen edit this on wikidata
AchosMonkeypox virus edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC128421 edit this on wikidata
Freebase/M/01k6yf edit this on wikidata
MeSHD045908 edit this on wikidata
UMLS CUIC0276180 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Clefyd heintus a achosir gan firws brech y mwnci yw brech y mwnci (a enwyd yn mpox gan Sefydliad Iechyd y Byd[1]) sydd yn effeithio ar rai anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol.[2] Mae symptomau yn dechrau gyda thwymyn, cur pen, poen yn y cyhyrau, chwyddo'r chwarennau lymff, a theimlo wedi blino,[3] ac yna ceir brech sydd yn ffurfio pothelli ac yn ymgrawennu.[3] Ymddangosir y symptomau cyntaf rhyw ddeng niwrnod wedi cysylltiad â'r firws,[3] a pharheir y symptomau am ddwy i bedair wythnos, gan amlaf.[3]

Lledaenir brech y mwnci trwy sawl modd, gan gynnwys cyffwrdd cig y gwyllt, brathiad neu grafiad gan anifail, hylifau'r corff, gwrthrychau heintiedig, neu gysylltiad agos â rhywun sydd wedi ei heintio.[4] Credir i'r firws darddu o gnofilod yn Affrica.[4] Gellir cadarnhau diagnosis drwy brofi anaf ar y croen am DNA y firws.[5] Gall yr afiechyd ymddangos yn debyg i frech yr ieir.[6]

Gallai brechlyn y frech wen atal haint brech y mwnci gydag effeithioldeb o 85%.[5][7] Yn 2019, derbyniwyd defnydd y brechlyn Jynneos yn erbyn brech y mwnci ar gyfer oedolion yn Unol Daleithiau America.[8] Nid oes yr un briod feddyginiaeth ar gyfer brech y mwnci feddygol;[9] gall y cyffuriau cidofovir a brincidofovir fod yn effeithiol i raddau.[6][9] Yn Affrica, gall y gyfradd marwolaeth fod mor uchel â 10% heb driniaeth.[3]

Ymddengys y clefyd fel arfer yng Nghanolbarth a Gorllewin Affrica.[10] Darganfyddwyd y firws yn gyntaf ymhlith mwncïod mewn labordai ym 1958.[11] Canfuwyd yr achosion cyntaf ymhlith bodau dynol ym 1970 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.[11] Yn 2003 cafwyd 71 o achosion yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i lygod codog a fewnforiwyd o Ghana i siopau anifeiliaid.[5] Yn 2022 cafwyd yr achosion cyntaf o drosglwyddo brech y mwnci rhwng bodau dynol y tu hwnt i Affrica, a hynny yn y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "WHO recommends new name for monkeypox disease". www.who.int (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-28.
  2. "About Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2017. Cyrchwyd 15 Hydref 2017.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Signs and Symptoms Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2017. Cyrchwyd 15 Hydref 2017.
  4. 4.0 4.1 "Transmission Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2017. Cyrchwyd 15 Hydref 2017.
  5. 5.0 5.1 5.2 "2003 U.S. Outbreak Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2017. Cyrchwyd 15 Hydref 2017.
  6. 6.0 6.1 "Human monkeypox". Clinical Infectious Diseases 58 (2): 260–267. January 2014. doi:10.1093/cid/cit703. PMID 24158414.
  7. "Treatment | Monkeypox | Poxvirus | CDC". www.cdc.gov (yn Saesneg). 2021-07-18. Cyrchwyd 2022-05-18.
  8. "FDA approves first live, non-replicating vaccine to prevent smallpox and monkeypox". FDA (yn Saesneg). 24 September 2019. Cyrchwyd 27 September 2019.
  9. 9.0 9.1 "Treatment | Monkeypox | Poxvirus | CDC". www.cdc.gov (yn Saesneg). 28 December 2018. Cyrchwyd 11 Hydref 2019.
  10. Bunge, Eveline M.; Hoet, Bernard; Chen, Liddy; Lienert, Florian; Weidenthaler, Heinz; Baer, Lorraine R.; Steffen, Robert (11 February 2022). "The changing epidemiology of human monkeypoxNodyn:SndA potential threat? A systematic review" (yn en). PLOS Neglected Tropical Diseases 16 (2): e0010141. doi:10.1371/journal.pntd.0010141. ISSN 1935-2735. PMC 8870502. PMID 35148313. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8870502.
  11. 11.0 11.1 "Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2017. Cyrchwyd 15 Hydref 2017.