Bodidris

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 53°04′29″N 3°11′18″W / 53.0746°N 3.1883°W / 53.0746; -3.1883

Bodidris yn 2007, pan oedd yn westy.
Bodidris yn 2018 pan oedd ar werth.
Llun allan o A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798); LlGC.

Plasty Tuduraidd o'r 16g a chynt yw Bodidris a gofrestwyd gan Cadw fel adeilad Gradd II* ar 28 Ebrill 1952. Ceir rhannau'n dyddio i'r 15g a chynt - cyfnod teulu'r Llwydiaid. Saif y plasty tua tair milltir i'r de-ddwyrain o Lanarmon-yn-Iâl ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Wrecsam.

Gosodwyd y plasty ei hun, bloc o adeiladau gyda thŵr (16g) a'r bloc ar gyfer y gweision (17g) ar ffurf petrual - ond dymchwelwyd yr ochr ogleddol (16g ers 1958. Mae adeilad y tŵr ar yr ochr ddeheuol ac yn ddeulawr, gydag atig a cheir arno arfbais sy'n cynnwys arth a ffon. Mae ffrynt y plasty yn eitha cymesur, ac yng nghefn y tŷ ceir tair simne anferthol o garreg; tywodfaen yw ffasâd y waliau, a charreg leol oddi fewn. Mae'r lle tân llydan yn unigryw a cheir ffenestri carreg hynod drwy'r plasty. Ceir grotesgau cerfiedig ar ran ucha'r tŵr.[1]

Perchnogion[golygu | golygu cod]

Evan Lloyd a theulu'r Llwydiaid[golygu | golygu cod]

Saif beddrod Evan Lloyd yn Eglwys Sant Garmon, Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Mae'n hynod o debyg i feddrod Sion Trefor (m. 1589) o Drefalun sy'n llai nag 14 milltir i'r dwyrain.

Dyddiwyd yr hen neuadd (a elwir heddiw yn 'stablau') i 1581 ac yn bensaerniol mae'n adeilad nodedig iawn, a godwyd tua'r un cyfnod a'r prif blasty, yn fwy na thebyg gan Efan (neu Ifan) Llwyd a fu'n Uwch Siryf Sir Ddinbych yn 1583. Mae'n bosib y defnyddiwyd yr adeiladau hyn gan aelodau eraill y teulu ac o bosib gan Iarll Leicester a ymladdodd gyda Evan Lloyd yn Iwerddon ac a wnaed yn farchog yn 1586. Bu Leicester yn byw mewn rhan o Fodidris rhwng 1563-1578, gan ei ddefnyddio fel canolfan i hela, a gwelir ei arfbais (yr arth a'r ffon) ar dalcen deheuol y 'stablau'.[2]

Y teulu Williams[golygu | golygu cod]

Yn y 19g aeth Bodidris i berchnogaeth y teulu Williams, perchnogion Castell Bodelwyddan. Syr Hugh Williams a dalodd am yr ysgol yn Llandegla a'i chwaer, Margaret, Lady Willoughby de Broke, a dalodd am godi eglwys newydd yn y pentref.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 24 Medi 2017.
  2. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 24 Medi 2017.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: