Bobby Sands

Oddi ar Wicipedia
Bobby Sands
Murlun i goffa Bobby Sands yn y Falls Road
GanwydRobert Gerard Sands Edit this on Wikidata
9 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Rathcoole Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1981 Edit this on Wikidata
HM Prison Maze Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnti H-Block Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bobbysandstrust.com/ Edit this on Wikidata
Bedd Bobby Sands yn Miltown.

Aelod o'r IRA ac Aelod Seneddol yn San Steffan oedd Robert Gerard "Bobby" Sands (Gwyddeleg: Roibeard Gearóid Ó Seachnasaigh) (9 Mawrth 19545 Mai 1981). Bu farw o ganlyniad i streic newyn yng ngharchar y 'Maze' (neu Long Kesh) yng Ngogledd Iwerddon, ble roedd yn garcharor yn dilyn cael ei ddedfrydu'n euog o fod a dryll yn ei feddiant.

Roedd Bobby Sands yn arweinydd Streic Newyn 1981; roedd y gweriniaethwyr yn ceisio annog yr Awdurdodau i roi iddynt hawliau arbennig (Statws Categori Arbennig, Special Category Status) ac fel carcharorion gwleidyddol.

O ganlyniad i'w farwolaeth yn y carchar, ymunodd cannoedd â rhengoedd yr IRA a chafwyd cydymdeimlad cryf i'w achos ar ddwy ochor i Fôr Iwerydd.

Crëwyd murlun mawr ar fur swyddfa Sinn Féin yn y Falls Road, Belffast i'w goffa a cheir "Rue Bobby Sands" ym Mharis.[1]

Cyfansoddodd y canwr Cymreig Meic Stevens y gân 'Bobby Sands' er cof amdano, sydd ar gael ar yr LP Nos Du, Nos Da (1982).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llun o'r arwydd ar Trydar; adalwyd 5 Awst 2016.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Frank Maguire
Aelod Seneddol dros Fermanagh a De Tyrone
1981
Olynydd:
Owen Carron
Rhagflaenydd:
Stephen Dorrell
Baban y Tŷ
1981
Olynydd:
Stephen Dorrell


Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.