Bluey (cyfres deledu)
| Enghraifft o: | cyfres deledu animeiddiedig |
|---|---|
| Crëwr | Joe Brumm |
| Gwlad | Awstralia, y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
| Dechreuwyd | 1 Hydref 2018 |
| Genre | cyfres deledu i blant, adventure television series |
| Cymeriadau | Bluey Heeler, Bingo Heeler, Bandit Heeler, Chilli Heeler |
| Yn cynnwys | Bluey, series 1, Bluey, series 2, Bluey, series 3 |
| Lleoliad y gwaith | Brisbane |
| Hyd | 7 munud |
| Cwmni cynhyrchu | Ludo |
| Cyfansoddwr | Joff Bush, David Barber |
| Dosbarthydd | Disney+ |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Gwefan | https://www.bluey.tv/ |
| Dynodwyr | |
Cyfres deledu animeiddiedig o Awstralia yw Bluey. Crëwyd y rhaglen gan Joe Brumm ac fe’i cynhyrchir gan gwmni Ludo Studio o Queensland . Fe’i comisiynwyd gan Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia a’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, gyda BBC Studios yn dal hawliau dosbarthu a marchnata byd-eang.
Mae’r sioe yn dilyn Blŵi, ci bach Blue Heeler chwe blwydd oed anthropomorffig, sy'n byw gyda thad, Bandit; mam, Chilli; a'r chwaer iau, Bingo. Mae pob un o'r cymeriadau eraill yn cynrychioli brîd ci gwahanol. Mae themâu trosfwaol yn cynnwys y ffocws ar deulu, tyfu i fyny a diwylliant Awstralia (Lleolir y sioe yn Brisbane, Queensland).
Mae Bluey wedi cael sgoriau cyson uchel yn Awstralia ac yn rhyngwladol, ar deledu darlledu a gwasanaethau fideo ar alw. Mae'r sioe wedi ennill llawer o wobrau[1], ac wedi cael ei chanmol gan feirniaid teledu am ei darlunio o fywyd teuluol modern bob dydd, darluniau magu plant dyrchafol, peidio ag enwi'r actorion sy'n blant, ddefnyddiwyd a darluniau cadarnhaol o rianta, a cherddoriaeth.
Mae gan y sioe dair cyfres, y dechrau cyntaf yn 2018. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dub swyddogol Cymraeg yn bodoli, er bod y sioe ar gael mewn nifer o ieithoedd eraill, yn fwyaf nodedig y dub Saesneg gwreiddiol o Awstralia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Cymro yn Awstralia sy'n dylunio cartŵn Bluey". BBC Cymru Fyw. 2023-03-28. Cyrchwyd 2023-07-12.