Blodyn menyn
Gwedd
| Enghraifft o: | tacson |
|---|---|
| Safle tacson | rhywogaeth |
| Rhiant dacson | blodyn melyn |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0cvg6q |
| Blodyn menyn | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Urdd: | Ranunculales |
| Teulu: | Ranunculaceae |
| Genws: | Ranunculus |
| Rhywogaeth: | R. acris |
| Enw deuenwol | |
| Ranunculus acris L. | |
Planhigyn lluosflwydd, unionsyth, blewog ydy blodyn menyn neu blodyn ymenyn (Saesneg: meadow buttercup; Lladin: Ranunculus acris). Mae'n perthyn i deulu'r Ranunculaceae. Fe'i gwelir fel arfer ar laswelltir llaith, ar lwybrau'r goedwig, ar ochrau'r ffyrdd neu mewn corsydd. Ers talwm, cyn dyfod y chwyn laddwr, fe newidiai'r blodyn hwn liw caeau cyfan o wyrdd i felyn.
Mae hwn yn blanhigyn gwenwynig a gall achosi briw ar y croen.
Gall dyfu rhwng 30–100 cm o uchder. Mae'r blodau'n felyn disglair iawn (oherwydd fod golau'n adlewyrchu oddi ar y celloedd starts y tu fewn i'r petalau. Maent rhwng 15-25mm ar draws gyda 5 petal yn glystyrau llac. Mae'r dail wedi'u rhannu'n ddwfn a cheir un hedyn gyda phen fel bachyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Blodyn menyn bondew (Ranunculus bulbosus)
- Blodyn menyn ymlusgol (Ranunculus repens)