Blodau mewn fâs
| Enghraifft o: | paentiad |
|---|---|
| Crëwr | Gwen John |
| Deunydd | paent olew |
| Dechrau/Sefydlu | 1910 |
| Genre | bywyd llonydd |
| Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |

Darlun olew gan yr arlunydd Gwen John (1876–1939) ydy Ffiol o Flodau. Er nad oes dyddiad ar y paentiad, gwyddom iddo gael ei baentio yn gynnar yng nghanrif 20. Rhoddwyd y darlun yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Gymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru (Contemporary Art Society of Wales (CASW)) yn 1957.
Ffiol llawn o flodau pinc a gwyn, gyda pheth dail gwyrdd, ar fwrdd pren sydd yn y paentiad hwn, gwelir fod rhai o'r petalau wedi syrthio ar y bwrdd. Ceir lliain binc wedi'i gosod dros fwrdd arall yng nghefndir y llun. Y cyfrwng a ddefnyddiwyd yw paent olew a hynny ar bren, gyda brwsh impasto. Efallai i'r llun gael ei greu mewn ystafell yn ei chartref.
Ym marn Cecily Langdale, a sgwennodd fywgraffiad o Gwen, mae'r llun yn perthyn i ddiwedd y 1910au.[1] Ceir paentiad eitha tebyg gan Gwen o'r enw "Blodau", sydd i'w weld heddiw yng Ngaleri Celf Manceinion.
Disgrifiodd y beirniad celf Mary Taubman y llun fel "classical and conceptual image and has the appearance of being a considered and reflective development on the original."[2]
Europeana 280
[golygu | golygu cod]Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Langdale, Cecily (1987). Gwen John. New Haven and London: Yale University Press. tud. 153. ISBN 0-300-03868-2.
- ↑ Taubman, Mary (1985). Gwen John. Cornell University Press.
- ↑ Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.