Bion

Oddi ar Wicipedia
Bion
Ganwyd120 CC Edit this on Wikidata
İzmir Edit this on Wikidata
Bu farw57 CC Edit this on Wikidata
DinasyddiaethKingdom of Pergamon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd2 g CC Edit this on Wikidata
Arddullbucolic poetry Edit this on Wikidata

Bardd Ïonaidd yn yr oes Helenistaidd ddiweddar oedd Bion (Groeg: Βίων; bl. 100 CC) sydd yn nodedig am ei fugeilgerddi eidylaidd a cherddi serch yn yr iaith Hen Roeg, y Bucolica.[1] Yn ôl traddodiad y gwyddoniadur Bysantaidd Suda, Bion yw'r lleiaf o'r tri bardd bugeiliol, ar ôl Theocritus a Moschus.[2]

Dim ond ychydig o fanylion am ei fywyd sydd yn hysbys, ac mae union awduraeth ei waith yn ansicr. Ganed yn Smyrna, yng ngorllewin Asia Leiaf, yn ail hanner yr 2g CC mae'n debyg. Yn ôl Epitaphios Bionos, galargerdd iddo a ysgrifennwyd gan un o'i ddisgyblion Eidalaidd, trigodd Bion yn Sisili.[1] Honna hefyd iddo farw o wenwyn, ond mae'n bosib taw dyfais rethregol yn hytrach na ffaith yw'r llinell honno.[2]

Dau ddernyn ar bymtheg o'i Bucolica sydd yn goroesi, rhyw 100 chweban i gyd, y mwyafrif yn esiamplau o ganu serch, ar adegau yn ymwneud â themâu gwladaidd, a chanddynt lais chwareus a gwirebol braidd.[1] Ymddengys un ar bymtheg o'r dernynnau hyn yng nghasgliadau Stobaeus o'r 5g. Ers y Dadeni, priodolir iddo hefyd Epitaphios Adonidos. Nodweddir yr alargerdd hon, mewn 98 chweban,[2] gan deimladrwydd hynod o liwgar sydd o bosib yn cyfleu poblogrwydd cwlt Adonis yn Ïonia.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Bion. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ionawr 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Alan H. Griffiths, "Bion (2), of Smyrna, Greek bucolic poet" yn Oxford Classical Dictionary (2015). Adalwyd ar 15 Ionawr 2021.