Bingu wa Mutharika
Gwedd
| Bingu wa Mutharika | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Chwefror 1934 Thyolo |
| Bu farw | 5 Ebrill 2012 Lilongwe |
| Dinasyddiaeth | Malawi |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd, gweinidog |
| Swydd | Arlywydd Malawi, Chairperson of the African Union |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | United Democratic Front |
| Priod | Callista Chimombo |
| Gwobr/au | Order of the Lion |
Arlywydd Malawi oedd Bingu wa Mutharika (24 Chwefror 1934 – 5 Ebrill 2012).
Ganed ef fel Brightson Webster Ryson Thom yn Thyolo, tua 30 km o Blantyre. Newidiodd ei enw i'r enw teuluol Mutharika a mabwysiadu Bingu fel enw cyntaf yn y 1960au. Bu'n astudio yn yr Unol Daleithiau, a daeth yn economegydd, yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig am flynyddoedd.
Daeth yn Arlywydd Malawi ar 24 Mai 2004, fel olynydd i Bakili Muluzi, ar ôl ennill yr etholiad arlywyddol.
Bu farw yn Lilongwe.