Lilongwe
Jump to navigation
Jump to search
Prifddinas Malawi yw Lilongwe. Mae ganddi boblogaeth o tua 597,619 (cyfrifiad 2003). Mae'n gorwedd yng nghanolbarth y wlad ar lannau Afon Lilongwe, ger y ffin rhwng Malawi, Mosambic, a Sambia, ar yr M1, prif draffordd y wlad.
Dechreuodd Lilongwe fel pentref bychan ar lan Afon Lilongwe, a ddaeth yn ganolfan weinyddol yng nghyfnod rheolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig ar y wlad. Tyfodd i ddod yn ddinas ail fwyaf Malawi. Yn 1974, symudwyd prifddinas y wlad o Zomba i Lilongwe. Ond er mai Lilongwe yw'r brifddinas swyddogol, Blantyre, dinas fwyaf y wlad, yw'r brif ganolfan fasnach. Lleolir Senedd Malawi yno.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bakili Muluzi (g. 1943), gwleidydd
- Tawonga Chimodzi (g. 1988), chwaraewr pêl-droed