Bhasha Andolon

Oddi ar Wicipedia
Gorymdaith y Mudiad Iaith ar 21 Chwefror 1952 yn Dhaka.

Mudiad iaith gwleidyddol a sefydlwyd yn Nwyrain Pacistan (Bangladesh heddiw) er mwyn ennill cydanbyddiaeth i'r iaith Fengaleg fel iaith swyddogol ym Mhacistan oedd Bhasha Andolon (Bengaleg ভাষা আন্দোলন ; 'Mudiad yr Iaith'/'Mudiad yr Iaith Fengaleg'). Buasai cydnabyddiaeth o statws swyddogol i'r iaith, oedd yn famiaith i fwyafrif y boblogaeth, yn caniatau ei defnyddio yn yr ysgol ac yng ngweinyddiaeth y llywodraeth.

Pan greuwyd gwladwriaeth Pacistan yn 1947, roedd ei ddau ranbarth, Dwyrain Pacistan (neu Ddwyrain Bengal; Bangladesh) a Gorllewin Pacistan, wedi ei rannu o ran diwylliant, daearyddiaeth ac iaith gyda gwlad anferth India yn gorwedd rhyngddynt. Yn 1948, cyhoeddodd Llywodraeth Pacistan mai Wrdw (Urdu) yn unig fyddai'r iaith genedlaethol, ac arweiniodd hyn at brostestiadau niferus gan siaradwyr Bengaleg Dwyrain Pacistan. Yn wyneb hynny a'r tensiynau enwadol ac anfodlonrwydd cyffredinol am y ddeddf newydd, gwaharddodd y llywodraeth gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau. Ond penderfynodd myfyrwyr Prifysgol Dhaka ac ymgyrchwyr gwleidyddol eraill herio'r gyfraith a threfnu protest iaith ar 21 Chwefror 1952. Torwyd y brotest i fyny gan yr heddlu a lladdwyd rhai o'r myfyrwyr. Arweiniodd y marwolaethau hynny at sefyllfa o ansefydlogrwydd sifil ar raddfa eang a arweinwyd gan y Cynghrair Mwslim Awami (Cynghrair Awami yn ddiweddarach). Ar ôl rhai blynyddoedd o wrthdaro, ildiodd y llywodraeth ganolog a rhoddwyd statws swyddogol i'r Fengaleg yn 1956. Yn 1999, cyhoeddodd UNESCO 21 Chwefror yn Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol, mewn teyrnged i Fudiad yr Iaith Fengaleg ac i hawliau grwpiau ethnig-ieithyddol ledled y byd.

Cafodd y Mudiad Iaith yr effaith o gataleiddio cadarnhad hunaniaeth Fengalaidd ym Mhacistan, gan arwain yn y pendraw at ffurfio mudiadau cenedlaetholgar, yn cynnwys Mudiad y 6 Pwynt, a Rhyfel Annibyniaeth Bangladesh yn 1971.

Heddiw ym Mangladesh cedwir gŵyl 21 Chwefror fel Diwrnod y Mudiad Iaith, sy'n un o wyliau cyhoeddus y wlad. Codwyd cofeb Shaheed Minar ger Coleg Meddygol Dhaka i goffau'r rhai fu syrthio. Ond y brif gofeb ymarferol i'r mudiad efallai yw'r Academi Bangla, a sefydlwyd yn 1955 er mwyn hyrwyddo'r iaith Fengaleg.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Badruddin Umar, The Emergence of Bangladesh: Class Struggles in East Pakistan (1947-1958) (Gwasg Prifysgol Rhydychen, UDA, 2004) ISBN 978-0195795714
  • Anwar S. Dil, Bengali language movement to Bangladesh (Ferozsons, 2000) ISBN 978-9690015778
  • Robert S. Stern, Democracy and Dictatorship in South Asia: Dominant Classes and Political Outcomes in India, Pakistan, and Bangladesh (Praeger Publishers, 2000) ISBN 978-0275970413
  • Syed Manzoorul Islam, Essays on Ekushey: The Language Movement 1952 (Bangla Academy, 1994) ISBN 984-07-2968-3

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]