Bernard o Menthon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bernard o Menthon
St Bernard, 1607.JPG
Ganwyd 0923 Edit this on Wikidata
Menthon-Saint-Bernard Edit this on Wikidata
Bu farw 1008 Edit this on Wikidata
Novara Edit this on Wikidata
Galwedigaeth offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 15 Mehefin Edit this on Wikidata

Sant Cristnogol Ffrengig oedd Sant Bernard o Menthon (923 - 1008). Mae'n debyg iddo gael ei eni yn y Château de Menthon ger Annecy, i delu cefnog. Roedd ei dad wedi trefnu priodas iddo, ond gadawodd y chateau y diwrnod cyn ei briodas i ffoi i'r Eidal ac ymuno ag Urdd Sant Bened.

Urddwyd ef yn offeiriad, a daeth yn Archddiacon Aosta yn 966. Bu'n pregethu a gweithio yn ardal yr Alpau a Lombardi am flynyddoedd lawer. Bu'n gyfrifol am adeiladu ysbytai (hospitium) i gynorthwyo teithwyr ar hyd dau o fylchau enwog yr Alpau, ac o ganlyniad, enwyd y bylchau hyn ar ei ôl: Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch Sant Bernard Bach. Daeth y cŵn a gedwid gan y canoniaid yn yr ysbyty ar Fwlch Sant Bernard Mawr i'w galw'n Gŵn Sant Bernard.

Bu farw yn Novara yn yr Eidal. Cyhoeddwyd ef yn sant gan y Pab Innocent XI yn 1681; mae ei ddydd gŵyl ar 28 Mai.