Ben Alder

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ben Alder

(Ucheldir yr Alban)
Ben Alder o'r dwyrain.
Cyfieithiad Mynydd-y-graig
Iaith Gaeleg yr Alban
Testun y llun Ben Alder o'r dwyrain.
Uchder (m) 1148
Uchder (tr) 3766
Amlygrwydd (m) 783
Lleoliad Mynyddoedd y Grampians
Map topograffig Landranger 42;
Explorer 385E 393
Cyfesurynnau OS NN496718
Gwlad yr Alban
Dosbarthiad Marilyn, Munro a HuMP

Mae Ben Alder yn gopa mynydd a geir rhwng Loch Treig a Loch Ericht ym mynyddoedd y Grampians, yng ngogledd-orllewin Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NN496718. Ceir llyn (Lochan a' Garbh Coire) ar y llwyfandir eang a welir ar y copa - un o'r llynnoedd uchaf yng ngwledydd Prydain.

Dyma'r 25ain Munro uchaf. Ceir piler triongl yr OS ger y copa. Mae ei leoliad yn eithaf anghysbell ac felly nid oes llawer o dramwyo i'w gopa. Cei cyfeiriad at y mynydd hwn yn y nofel Kidnapped gan Robert Louis Stevenson.

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]