Mynyddoedd y Grampians
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Grampians)
Jump to navigation
Jump to search
Mae Mynyddoedd y Grampian (Gaeleg: Am Monadh) yn un o'r tri chlwstwr mwyaf o fynyddoedd yn yr Alban ac wedi'i leoli yng ngogledd-ddwyrain yr Ucheldir. Mae sianel deledu Grampian Television dros y blynyddoedd wedi creu dryswch mawr ynglŷn a pha fynyddoedd a restrir o dan y penawd hwn, oherwydd fod eu hardal hwy ychydig yn wahanol i'r ardal ble ceir y clwstwr hwn o fynyddoedd.
Cofnodir y term yn gyntaf gan y Rhufeiniaid Cornelius Tacitus wrth gofnodi brwydr y Rhufeiniaid yn erbyn y Caledoniaid oddeutu 86 O.C.
Mae'r clwstwr hwn o fynyddoedd yn cynnwys Ben Nevis (sef mynydd uchaf gwledydd Prydain - 1,344 metr) a Ben Macdui (yr ail fynydd uchaf - 1,309 m).

Mynyddoedd y Grampians o Beinn a Ghlo.