Sgwrs:Mynyddoedd y Grampians

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae mwy nag un diffiniad o'r Grampians, ac fe fyddai'n anodd dweud fod yr un o'r rhain yn anghywir. Ond mae'r map presennol a'r hyn a ddywedir yn yr erthygl yn anghyson. Mae Ben Nevis yn eitha pell o'r darn a ddangosir yn goch ar y map. Porius1 07:57, 23 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Dw i wedi tynnu'r map; sgen ti un gwell? Llywelyn2000 08:40, 23 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi ychwanegu un o'r erthygl Eidaleg. Wn i ddim a yw hwnnw'n hollol gywir chaith, ond mae'n nes ati. Porius1 14:30, 23 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
Roeddwn i ar ormod o frys i sylwi pan greais y categori a roddwyd gan Llywelyn, ond mae 'na anghysondeb yma. 'Mynyddoedd y Grampians' yn ôl y teitl a'r categori ond "...Grampians" a geir yn yr erthygl. Dim yn rhy hwyr i newid y categori. Anatiomaros 18:08, 23 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]