Ben Macdhui

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ben Macdui)
Ben Macdhui
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol y Cairngorms Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr1,309 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.070368°N 3.669099°W Edit this on Wikidata
Cod OSNN9890098934 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd950 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaBen Nevis Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCairngorms Edit this on Wikidata
Map

Mae Ben Macdui, hefyd Ben Macdhui neu Beinn Mac Duibh yn gopa mynydd a geir ym mynyddoedd y Cairngorms yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN988989. Saif ger y ffîn rhwng Swydd Aberdeen a Moray. Dyma ail fynydd uchaf gwledydd Prydain ar ôl Ben Nevis. Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau; yr hawddaf yw o faes parcio Coire Cas ger Canolfan Sgïo Cairngorm, sy'n daith o tua 7 km (4 millir) i'r copa. Gellir ymweld a chopa Cairn Gorm ar y ffordd.

Cyn cynhyrchiad mapiau manwl o'r Alban yn y 19eg ganrif, ni wyddid yn sicr mai Ben Nevis oedd pwynt uchaf Prydain, a chredid yn aml y gallai Ben Macdui ei fod. Wedi'r cadarnhad mai Ben Nevis oedd yr uchaf, roedd gan rai bobl leol gynlluniau i adeiladu carnedd ar gopa Ben Macdui o uchder digonol er mwyn iddo fod yn uwch na Ben Nevis, er na chwblhawyd y cynlluniau hynny.

Ceir piler triongl yr OS ger y copa.

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo ac yn HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]