Cairn Gorm
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol y Cairngorms |
| Rhan o'r canlynol | Mynyddoedd y Grampians |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,245 metr, 1,244.8 metr |
| Cyfesurynnau | 57.116714°N 3.644477°W |
| Cod OS | NJ0051704056 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 145 metr, 145.8 metr |
| Rhiant gopa | Ben Macdhui |
| Cadwyn fynydd | Cairngorms |
![]() | |
Mynydd yn y Cairngorms yn nwyrain Ucheldiroedd yr Alban yw Cairn Gorm (Gaeleg: An Càrn Gorm, "y garnedd las"); cyfeiriad grid NJ005040. Rhoddodd ei enw i'r mynyddoedd hyn, er mai Am Monadh Ruadh yw'r enw Gaeleg arnynt. Er gwaethaf yr enw, Ben Macdhui gerllaw yw copa uchaf y Cairngorms.
Ceir carnedd ar y copa.
Saif gerllaw ardal Strathspey a thref Aviemore. Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau; yr hawddaf yw o faes parcio Coire Cas ger Canolfan Sgïo Cairngorm. Datblygwyd y ganolfan sgïo o'r 1960au ymlaen, a hi yw'r ail-fwyaf yn yr Alban ar ôl Glenshee. Yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Fynydd y Cairngorm sy'n mynd a sgïwyr ac eraill bron i'r copa.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback
- [300519 Lleoliad ar wefan Get-a-map]
