Bella Fawr Llanddona

Oddi ar Wicipedia
Bella Fawr Llanddona
Man preswylLlanddona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwrach Edit this on Wikidata

Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Ellen Anne Pughe a hi oedd prif wrach holl wrachod Llanddona Ynys Môn.

Yn ôl chwedloniaeth Ynys Môn, ymddangosodd gwrachod Llanddona ar arfordir yr ynys un noson. Pan welodd y bobl llol eu cwch yn dod tuag at y lan, ceision nhw atal y cwch rhag cyrraedd, ond roedd hyn yn ofer.

Roedd y gwrachod yn marw o syched wedi eu siwrne ar draws y môr, ac wrth i un ohonyn nhw daro’r llawr, ymddangosodd ffynon ddŵr croyw. Arhosodd y gwrachod yn Llanddona wedi hyn.

Roedd Bella Fawr yn cael ei hadnabod fel arweinydd gwrachod Llanddona. Yn ôl y chwedlau, roedd hi’n gallu marchogaeth ysgubell drwy’r awyr, darogan y dyfodol, ac achosi a iacháu afiechydon drwy hudolaeth.

Roedd ganddi hefyd y gallu i drawsffurfio’n sgwarnog, ac un tro cafodd ei dal yn godro buwch pan roedd hi yn rhith sgwarnog. Yn ôl y chwedl, dim ond bwled arian fyddai’n gallu ei lladd.

Roedd Goronwy Tudur, fodd bynnag, yn drech na hi, a saethodd hi gyda darn arian, gan dynnu gwaed; ni chafodd fawr o drafferth ganddi wedi hynny.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. public-library.uk; adalwyd 29 Hydref 2019.