Beibl Gutenberg
Enghraifft o'r canlynol | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad, editio princeps |
---|---|
Math | incwnabwlwm |
Iaith | Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 1450s |
Lleoliad cyhoeddi | Mainz |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Ewrop gan ddefnyddio teip symudol oedd Beibl Gutenberg neu Beibl 42-llinell neu Beibl Mazarin. Fel arfer fe'i enwir ar ôl ei argraffydd, Johannes Gutenberg. Weithiau fe'i enwir ar ôl nifer y llinellau ar bob tudalen (felly "Beibl 42-llinell"), ac weithiau fe'i enwir ar ôl llyfrgell Cardinal Mazarin ym Mharis, oherwydd dyna oedd lleoliad y copi cyntaf i'w ddisgrifio gan lyfrgraffwyr (felly "Beibl Mazarin").
Mae'n argraffiad mewn tair cyfrol o'r testun Lladin y Fwlgat. Gwnaethpwyd y gwaith yng ngweithdy Gutenberg yn Mainz, yr Almaen, a chafodd ei orffen tua 1455. Nid yw'n hysbys faint o gopïau a argraffwyd, ond mae ysgolheigion heddiw yn awgrymu bod rhwng 160 a 185 – tua tri chwarter ar bapur a'r gweddill ar femrwn.
Mae tudalennau'r llyfr yn debyg iawn i'r Beiblau llawysgrif o'r dydd; yn arbennig mae defnydd helaeth o fyrfoddau a chwtogiadau er mwyn cadw'r llinellau yn fyr, gydag ochrau'r colofnau yn gyfochrog. Mewn gwirionedd, roedd yn rhaid i oleuwyr proffesiynol gwblhau'r tudalennau trwy ychwanegu â llaw blaenlythrennau oliwiedig a goliwiadau eraill.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- The Gutenberg Bible, copi o'r Beibl Gutenberg ym Mhrifysgol Texas yn Austin