Bedd yr Eryrod
Math | carnedd gellog |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 58.74°N 2.92°W |
Siambr gladdu Neolithig yw Bedd yr Eryrod (Saesneg: Tomb of the Eagles), a leolir ar ynys South Ronaldsay yn Ynysoedd Erch oddi ar arfordir gogleddol tir mawr yr Alban. Fe'i gelwir yn "Fedd yr Eryrod" am fod esgyrn nifer o eryrod wedi'u claddu yno, yn ogystal ag esgyrn dynol.
Darganfuwyd 16,000 o esgyrn dynol ar y safle, yn ogystal â 725 o esgyrn adar. Mae'r rhan fwyaf o'r esgyrn adar yn weddillion eryrod y môr cynffon-wen (Haliaeetus albicilla) ac yn cynrychioli rhwng 8 ac 20 o adar unigol. Tybwyd gan yr archaeolegwyr eu bod yn "waddoliad sefydlu" a gladdwyd yno pan adeiladwyd yr adeilad, ond mae dadansoddiad diwedddar yn dangos y bu farw'r eryr hyn yn y cyfnod o tua 2450 hyd 2050 CC, sef tua mil o flynyddoedd ar ôl adeiladu'r beddrod. Mae hyn yn tueddu i gadarnhau'r gred fod siambrau claddu Ynysoedd Erch yn cael eu defnyddio dros gyfnod o genedlaethau lawer.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pitts, M. 2006. 'Flight of the eagles'. British Archaeology 86: 6.