Becky Gittins
Gwedd
Becky Gittins | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwefan | https://www.beckygittins.co.uk/ |
Gwleidydd Cymreig sydd wedi gwasanaethu fel Aelod Seneddol Dwyrain Clwyd ers 2024 yw Becky Gittins (ganwyd c.1985). Yn aelod o'r Blaid Lafur, enillodd y sedd oddi wrth James Davies, aelod o'r Blaid Geidwadol.[1]
Cafodd ei geni yn Nwyrain Clwyd. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Alun. Ar ôl mynd i Coventry i astudio ym Mhrifysgol Warwick yn 2013, arhosodd yn y ddinas, gan gael ei hethol yn y pen draw yn gynghorydd dros ward Earlsdon yng Nghyngor Dinas Coventry ar gyfer y Blaid Lafur. [2] Roedd hi'n swyddog yr undeb PCS. Ymddiswyddodd o’i swydd ym mis Medi 2023 er mwyn rhedeg fel darpar ymgeisydd seneddol y Blaid Lafur ar gyfer Dwyrain Clwyd. [3][4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Clwyd East | General Election 2024" (yn Saesneg). Sky News. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ "City councillor stands down triggering by-election" (yn Saesneg). Coventry City Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-10. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Election results for Earlsdon | Local City & Parish Council Elections - Thursday, 2nd May, 2019" (yn Saesneg). Coventry City Council. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2024.
- ↑ "City councillor stands down triggering by-election" (yn Saesneg). Coventry City Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-10. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2024.