Bashō
Gwedd
| Bashō | |
|---|---|
![]() | |
| Ffugenw | 松尾甚七郎, 松尾甚四郎, 俳聖 |
| Ganwyd | 松尾金作 1644 Lle geni Basho Okina |
| Bu farw | 28 Tachwedd 1694 Midōsuji |
| Man preswyl | Guan Canna, 'Cartrefi Hudol', Lle geni Basho Okina |
| Dinasyddiaeth | Japan |
| Galwedigaeth | bardd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Oku no Hosomichi, Gêm y Gragen, Teithiwr Nawdd, Frog Poem |
| Arddull | haikai |
| Cartre'r teulu | Tref Tsui |
| Mudiad | Shōfū haikai |
Bardd o Japan oedd Matsuo Bashō (1644 - 28 Tachwedd 1694), a oedd y mwyaf o'r beirdd cerddi haiku yn llenyddiaeth Siapaneg. Fe'i ganwyd yn 1644 yn ninas Uedo, rhanbarth Iga. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a chasglwyd ei gerddi mewn sawl blodeugerdd Siapaneg gyfoes.
Ei waith mwyaf cyfarwydd y tu allan i Siapan yw'r gyfres o lyfrau taith byr, sy'n gyfuniad o ryddiaith a barddoniaeth, a ysgrifennodd yn ystod rhan olaf ei oes. Maent yn cynnwys Oku no Hosumichi ('Y Llwybr Cul i'r Gogledd Eithaf'), Nozarashi Kikō ('Cofnodion Sgerbwd Agored i'r Tywydd'), Kashima Kikō ('Ymweliad â Kashima'), Oi no Kabumi ('Cofnodion Cod Taith Treuliedig') a Sarashina Kikō ('Ymweliad â Sarashima').
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Noboyuki Yuasa (cyf.), Bashō: The Narrow Road to the Deep North and other Travel Sketches (Llundain, 1968)
