Barwniaeth Aberdâr

Oddi ar Wicipedia
Barwniaeth Aberdâr
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Barwniaeth Aberdâr

Mae Barwn Aberdâr, o'r Dyffryn yn Sir Forgannwg, (en: Baron Aberdare of Duffryn) yn deitl ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Crëwyd y farwniaeth ar 23 Awst, 1873 ar gyfer y gwleidydd Rhyddfrydol Henry Austin Bruce. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cartref o 1868 i 1873. Roedd ei ŵyr, y trydydd Barwn, yn filwr, yn chwaraewr criced a thenis ac yn aelod o'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Bu'r pedwerydd barwn yn gwasanaethu yng ngweinyddiaeth Geidwadol Edward Heath ac roedd yn ddiweddarach yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi. Roedd pedwerydd Arglwydd Aberdâr yn un o'r 92 arglwydd etifeddol a gafodd eu hethol gan eu cyd-arglwyddi i barhau'n aelodau o Dŷ'r Arglwyddi wedi pasio Deddf Tŷ'r Arglwyddi ym 1999. Mae'r deiliad presennol, y pumed barwn, a olynodd ei dad yn 2005 wedi bod yn aelod a etholwyd i eistedd yn y Tŷ ers 2009.

Arfbais[golygu | golygu cod]

Croesymgroes (saltire) coch (gules) ar gefndir aur (or) o dan bennawd (chief) o wennol herodrol (martlet) aur mewn cae coch.

Arwyddair: Uwchben y crib Fuimus (Lladin; buon ni), islaw'r crib Ofner Na Ofne Angau (mewn Cymraeg cyfoes: Ofna'r un nad yw'n ofni angau)

Deiliaid[golygu | golygu cod]

Yr etifedd tybiedig yw mab y deiliad presennol yr Anrhydeddus Hector Morys Napier Bruce (g. 1974)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]