Bardd Teulu
Aelod o ddosbarth arbennig o feirdd o fewn Cyfundrefn y Beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd y Bardd Teulu. Roedd ganddo fraint a dyletswyddau neilltuol yn ôl Cyfraith Hywel fel aelod o lys y brenin ac fel bardd 'teulu' (gosgordd filwrol) y brenin hwnnw.
Beirdd teulu cynnar a chanoloesol
[golygu | golygu cod]Roedd y bardd teulu yn un o'r Pedwar Swyddog ar Ugain yn llys y brenin ac yn cael ei gyfrif yn wythfed yn rheng y swyddogion hynny. Roedd yn eistedd gyda'r Penteulu ym mhen isaf y neuadd gydag aelodau dethol o'r osgordd o gwmpas drws y neuadd. Dalai ei dir yn rhydd a rhoddid iddo farch a dillad brethyn gan y brenin a dillad llian gan y frenhines. Roedd y Penteulu yn fod i roi iddo ei delyn yn ei law yn y Tair Gŵyl Arbennig (uchelwyliau'r Nadolig, y Pasg a'r Sulgwyn), a byddai'n cael dillad gan y Distain ar yr achlysuron hynny hefyd. Canai ar ôl y pencerdd, ar destun llai ffurfiol. Pe bai'r frenhines yn dymuno gwrando cerdd, byddai'r bardd teulu yn mynd ati ac yn canu iddi yn ddistaw o'r neilltu. Dylai gael talbwrdd o ifori morfil gan y brenin a modrwy aur gan y frenhines. Cysgai yn stafell y Penteulu yn y neuadd. Gwerth ei sarhad oedd chwe buwch a chweugain darn o arian.[1]
Ei ddyletswydd oedd canu i'r 'Teulu' a'i ddiddanu. Roedd ganddo hawl i gael buwch neu ych o anrhaith y Teulu, ar ôl i'r brenin gael ei draean: disgwylid iddo ganu cerdd arbennig 'Unbennaeth Prydain' mewn diolch. Roedd dan nawdd (amddiffyn) y Penteulu.[2] Fe'i cysylltir â'r englyn yn draddodiadol.
Credir fod Aneirin yn fath o Fardd Teulu i osgordd Mynyddog Mwynfawr. Erbyn yr Oesoedd Canol mae'n debygol nad oedd y rhaniad pendant yn y llyfrau Cyfraith mor amlwg. Canai Cynddelw Brydydd Mawr fel pencerdd a bardd teulu, er enghraifft. Ar un adeg roedd ysgolheigion yn dadlau fod yr awdl yn perthyn i'r pencerdd tra bod yr englyn yn fwy priodol i ganu'r Bardd Teulu.
"Beirdd teulu" diweddarach
[golygu | golygu cod]Weithiau defnyddir y term 'bardd teulu' i gyfeirio at rai o Feirdd yr Uchelwyr, yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern, a oedd yn perthyn i aelwyd arbennig hefyd, ond tenau yw'r cysylltiad â'r Bardd Teulu hynafol. Ystyrir Siôn Dafydd Las (m. 1694), "bardd teulu" plas Nannau ym Meirionnydd, yn un o'r olaf o'r beirdd hyn. Y gŵr olaf i gael ei gyflogi fel "bardd teulu" yn yr ystyr yma oedd Dafydd Nicolas (1705-1774). Am dros 50 mlynedd bu'n fardd teulu Aberpergwm ym Morgannwg (Castell-nedd Port Talbot).[3]