Baich y Dyn Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Baich y Dyn Gwyn
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
AwdurRudyard Kipling Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1899 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif bwncPhilippine–American War, trefedigaethrwydd Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cartŵn, gyda'r enw "The White Man's Burden", a gyhoeddwyd yn The Journal, Detroit yn ystod Rhyfel y Philipinau-Unol Daleithiau America yn dangos Americanwr yn cario brodor an-Orllewinol ystrydebol i ysgoldy.

Cysyniad ideolegol yng ngwasanaeth imperialaeth y Gorllewin oedd "Baich y Dyn Gwyn" (Saesneg: The White Man's Burden). Roedd yn un o gymhellion ideolegol a moesol amlycaf ymerodraethau'r Gorllewin wrth iddynt oresgyn rhan helaeth o wledydd Affrica ac Asia a rhannau eraill o'r byd yn y 19eg ganrif. Ceir yr ymadrodd mewn print am y tro cyntaf yn y gerdd "The White Man's Burden" gan y bardd Seisnig Rudyard Kipling ar gyfer jiwbili'r Frenhines Fictoria er mwyn dathlu'r Ymerodraeth Brydeinig ac annog ei hymestyn. Cafodd y gerdd ei gyhoeddi yn y cylchgrawn McClure's yn 1899 yn yr Unol Daleithiau, gyda'r is-deitl 'The United States and the Philippine Islands'. Cafodd yr ymadrodd ei boblogeiddio gan imperialwyr yn UDA fel cyfiawnhad dros imperialiaeth yn nhermau moesol.

Yn ôl y safbwynt a grynhoir yn yr ymadrodd "Baich y Dyn Gwyn", mae credoau gwleidyddol, diwylliannol neu grefyddol yn arwain gwladwriaethau i weld imperialaeth fel "gweithgaredd cenhadol". "Baich y Dyn Gwyn" oedd hi i wareiddio yr "anwariaid" y tu allan i'r Gorllewin. Y tu ôl i'r syniad roedd y gred fod y gwynion yn fwy datblygedig a gwareiddiach na'r pobloedd brodorol ac mae eu dyletswydd moesol nhw oedd eu "dyrchafu" a'u "goleuo" yn ôl eu cysyniadau nhw o'r hyn y dylai gwareiddiad fod.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]