Bacarát

Oddi ar Wicipedia
Palet a chardiau.

Gêm gardiau a chwareir mewn casino yw bacarát[1] (Ffrangeg: baccarat). Mae'n gêm ddwyochrog, rhwng y bancer, sydd hefyd yn y rhannwr, a'r chwaraewr arall, er gall hyd at 12 o bobl chwarae yn erbyn y banc (y casino) ar yr un pryd. Mae'r gêm hefyd yn defnyddio crwpier.[2]

Amcan y gêm yw i ddal dyrnaid o werth uwch na'r bancer.[2]

Prif amrywiadau'r gêm yw Chemin de Fer, sydd â'r chwaraewyr yn cymryd eu tro fel y bancer,[3] a Punto Banco, sy'n gêm siawns lwyr.[4]

Dyfeiswyd y gêm syml hon yn Ffrainc yn y 19g, a'i phwrpas oedd i symud symiau mawr o arian mewn casinos. Daeth yn gysylltiedig â'r cyfoethogion yn gamblo mewn casinos enwog Deauville a Monte Carlo.[2] Mae gan facarát le amlwg yn y nofel Casino Royale gan Ian Fleming.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths a Jones, t. 92 [baccarat].
  2. 2.0 2.1 2.2 Arnold, t. 10.
  3. Arnold, t. 12.
  4. Arnold, t. 14.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Arnold, Peter. Chambers Card Games (Caeredin, Chambers, 2007).
  • Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]).
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: