Bertie Louis Coombes
Bertie Louis Coombes | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1893 Wolverhampton |
Bu farw | 4 Mehefin 1974 |
Man preswyl | Treharris, Resolfen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, glöwr |
Roedd Bert Lewis Coombes (9 Ionawr 1893 – 4 Mehefin 1974), a adnabyddir fel Bertie Lewis Coombs Griffiths pan oedd yn blentyn, yn llenor a gafodd ei eni yn Lloegr ond a symudodd i Resolfen yng Nghymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf; treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith ym mhyllau glo maes glo De Cymru, testun llawer o'i waith llenyddol.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Coombes yn Wolverhampton a'i fagu yn Swydd Henffordd, yn unig blentyn James Coombs Griffiths, groser, a Harriet Thompson.
Ychydig flynyddoedd ar ôl genedigaeth Bertie, peidiodd y teulu ag arddel y cyfenw Griffiths a mabwysiadwyd enw canol ei dad, 'Coombs' fel cyfenw, gan ei sillafu fel 'Cumbes' neu 'Coombes'.[1] Symudodd y teulu i Dreharris yn ne Cymru lle cymerodd ei dad waith yng Nglofa Deep Navigation a mynychodd Bertie'r ysgol gynradd. Yn 1905 neu 1906 cymerodd ei rieni denantiaeth fferm fechan yn Madley, Swydd Henffordd, a gadawodd Bertie'r ysgol i weithio fel gwas fferm. Yn ddiweddarach daeth yn was i feddyg lleol ond gan fod ei deulu bob amser yn cael trafferth talu rhent y fferm, yn 1910, gadawodd a symud i dde Cymru i fod yn löwr.[2]
Yn y pyllau glo
[golygu | golygu cod]Ymsefydlodd Coombes yn Resolfen yng Nghwm Nedd a dechreuodd weithio fel cynorthwyydd glowyr mewn pwll glo carreg. Yn 1913 priododd Mary Rogers, merch ysgrifennydd cyfrinfa leol Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Cawsant ferch o'r enw Rose a aned y flwyddyn ganlynol, a mab o'r enw Peter a aned ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Buont yn ŵr a gwraig am pum deg chwech o flynyddoedd.[2] Treuliodd ddeugain mlynedd yn gweithio dan ddaear.
Sylweddolodd Coombes nad oedd gan y rhai y tu allan i'r diwydiant glo unrhyw syniad o waith y glowyr a'r peryglon dyddiol yr oeddent yn eu hwynebu. Er gwaethaf ei addysg gyfyngedig, teimlai Coombes yr ysfa i hysbysu'r cyhoedd yn gyffredinol am y diwydiant mwyngloddio a'r cymunedau glofaol.[3] Yn ei bedwardegau, dechreuodd wneud hyn, gan ysgrifennu gyda'r nos ar ôl diwrnod yn y pwll. Ar y dechrau gwrthodwyd ei lawysgrifau gan gyhoeddwyr ond yn y diwedd daeth ar draws John Lehmann, golygydd y "New Writing". Ceisiodd y cylchgrawn llenyddol hwn chwalu rhwystrau cymdeithasol a chyhoeddodd ddarnau o waith gan awduron dosbarth gweithiol yn ogystal ag awduron dosbarth canol addysgedig.
Cyhoeddwyd stori fer Coombes, o'r enw, The Flame. Cynnwys y stori fer oedd disgrifiad manwl o ddioddefaint arswydus glöwr, yn gorwedd ar ei fol mewn gwythïen lo ddeunaw modfedd o uchder, pan mae methan ymdreiddiol yn cael ei danio gan ei lamp carbid tra mae'n pacio deinameit i mewn i dwll.[2] Cafodd y stori ganmoliaeth fawr ac arweiniodd at wahoddiadau gan gyhoeddwyr eraill. Dilynodd mwy o straeon byrion, yn seiliedig ar ddigwyddiadau yr oedd wedi'u profi.[2]
Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys:
- These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales (1939)
- Those Clouded Hills (Cobbett, 1944) [3]
- Miners Day (Harmondsworth, 1945), lle mae Coombes yn adrodd am weithgareddau bob dydd glöwr y tu mewn a'r tu allan i'r pwll, y cwynion, yr agweddau a'r cyfeillgarwch.[4]
Mae yna dri rhifyn diweddar o'i waith:
- BLCoombes, gyda 75 o ddelweddau o’r Rhondda gan Isabel Alexander (darlunydd rhifyn 1945), wedi’i olygu gan Peter Wakelin, Miner’s Day (2021), ISBN 978-1-913640-38-5, Gwasg Parthian [5]
- B.Jones a C.Williams (gol) With Dust Still in his Throat - The Writing of B. L. Coombes, The Voice of a Working Miner (2014),ISBN 978-1-78316-149-2, Gwasg Prifysgol Cymru,
- BLCoombes, These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales (2002),ISBN 978-0-7083-1563-7, Gwasg Prifysgol Cymru
Gweithiau nodedig eraill
[golygu | golygu cod]- The life we want (cyhoeddwyd yn 1944) [6]
- I am a miner (cyhoeddwyd yn 1939) [6]
- With dust still in his throat : an anthology of writing [6]
Derbyniad beirniadol
[golygu | golygu cod]Yn 1974, ysgrifennodd y Times Literary Supplement fod Coombes "yn un o'r ychydig awduron proletarian o'r 1930au a oedd yn drawiadol fel ysgrifenwyr yn hytrach na phroletariaid." Ysgrifennodd y Bwletin Hanes Cymdeithasol, "Gan gwmpasu'r 1930au a'r 1940au, ac felly'n crynhoi ffordd o fyw sydd wedi diflannu, mae pryder Bert Coombes am realiti ffawd y glöwr yn gofnod o ddiddordeb mawr i'r hanesydd cymdeithasol." [7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chris Williams, ‘Coombes, Bert Lewis (1893–1974)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 10 Nov 2013
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Jones, Bill; Williams, Chris (1999). B. L. Coombes. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-1562-0.
- ↑ 3.0 3.1 "B L Coombes". Archive Wales. Swansea University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-01. Cyrchwyd 2014-11-01.
- ↑ Brooks, David B. (1979). "Retrospective: "Miners Day" by B.L. Coombes". Appalachian Journal 6 (4): 311–313. JSTOR 40932305.
- ↑ "Miner's Day: B. L. Coombes, with Rhondda Images by Isabel Alexander (Hardback)". Parthian Books (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-29.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "Coombes, B. L. (Bert Lewis) 1893-1974". WORLDCAT Identities.
- ↑ "B.L.Coombes". Book review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-09. Cyrchwyd 2014-11-01.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- William D. Jones a Chris Williams - B.L. Coombes (cyfres Writers of Wales) (1999)
- Bill Jones a Chris Williams - With Dust Still in His Throat: A B.L.Coombes Anthology (1999)
- Genedigaethau 1893
- Marwolaethau 1974
- Diwydiant glo Cymru
- Hunangofianwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Hunangofianwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Hunangofianwyr Saesneg o Gymru
- Hunangofianwyr Saesneg o Loegr
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Gymru
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Loegr
- Llenorion straeon byrion Saesneg o Gymru
- Llenorion straeon byrion Saesneg o Loegr
- Pobl a aned yn Wolverhampton
- Pobl o Swydd Henffordd