Australia (ffilm 2008)

Oddi ar Wicipedia
Australia

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Baz Luhrmann
Cynhyrchydd Baz Luhrmann
Catherine Knapman
G. Mac Brown
Ysgrifennwr Stori
Baz Luhrmann
Sgript
Baz Luhrmann
Ronald Harwood
Stuart Beattie
Richard Flanagan
Serennu Hugh Jackman
Nicole Kidman
Brandon Walters
Cerddoriaeth David Hirschfelder
Sinematograffeg Mandy Walker
Golygydd Dody Dorn
Dylunio
Cwmni cynhyrchu 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau 26 Tachwedd, 2008
Amser rhedeg 166 munud
Gwlad Awstralia
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Australia ("Awstralia") (2008) yn ffilm ramantaidd epig a gynhyrchwyd gan Baz Luhrmann. Mae'n serennu Nicole Kidman a Hugh Jackman. Ysgrifennwyd y sgript gan Luhrmann a'r sgriptiwr Stuart Beattie ar y cyd â Ronald Harwood. Lleolir y ffilm rhwng 1939 a 1942 gyda digwyddiadau yng Ngogledd Awstralia fel bomio Darwin yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gefnlen i'r ffilm. Cyhyrchwyd y ffilm yn Sydney, Darwin, Kununurra, a Bowen. Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm ar 13 Tachwedd 2008 yn Awstralia a 16 Tachwedd yn yr Unol Daleithiau; fodd bynnag, cyhoeddodd Fox eu bod wedi gwthio'r dyddiadau yn ôl yn Awstralia a'r Unol Daleithiau i 26 Tachwedd gyda'r ffilm yn cael ei ryddhau yn fyd eang ar ddiwedd mis Rhagfyr 2008 a Ionawr a Chwefror 2009.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ramantus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.