Austell

Oddi ar Wicipedia
Austell
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl28 Mehefin Edit this on Wikidata
Gofal:Am y santes Gymreig, a merch y Brenin Brychan, gweler Hawystl.

Meudwy a sant o'r 6g a fu'n byw yng Nghernyw, Cymru a Llydaw oedd Austell (neu Austel). Enwyd y dref St Austell yng Nghernyw ar ei ôl. Mae ei ddydd Gŵyl ar 28 Mehefin, wythnos ar ôl ei gyfaill Mefen.

Ymddengys yr enw'n gyntaf mewn rhestr o seintiau Cernyw yn y Codex Reginensis Latinus 191 o'r 10g, yn y Fatican, gyda'r sillafiad "Austoll".[1] Roedd y sillafiad wedi newid i "Austolus" erbyn 1150.

Cysylltir Austell gyda sant o'r enw Mewn (neu "Muen"), yng Nghernyw ac yn Llydaw e.e. yn enw'r pentrefi Sant-Fieg-ar-Mewan a Sant-Meven. Yng Nghernyw a Llydaw, rhoddodd Austell a Mefen eu henwau ar blwyfi sy'n ffinio â'i gilydd ac roedd gan Austell gwlt cryf yn Abaty Saint-Méen ac a elwir yn Llydaweg yn 'Sant-Neven').

Mae'n bosibl iddo roi ei enw y pentref Llanawstl ym Machen, Gwent, ond mae hefyd yn bosibl mai cyfeiriad at Hawystl sydd yma.

Sant-Neven, Llydaw, lle roedd gan Austell ddilynwyr

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. R.L. Olson ac O.J. Padel yn CMCS 12 (1986), tud. 59.