As-Safir
| Enghraifft o: | papur dyddiol |
|---|---|
| Daeth i ben | 31 Rhagfyr 2016 |
| Gwlad | Libanus |
| Iaith | Arabeg |
| Dechrau/Sefydlu | 26 Mawrth 1974 |
| Pencadlys | Beirut |
| Gwefan | http://www.assafir.com/ |
| Dynodwyr | |
Papur newydd dyddiol Arabeg a gyhoeddir yn ninas Beirut, Libanus, yw As-Safir (Arabeg: السفير as-Safir "Y Llysgenad"; weithiau al-Safir mewn rhai ffynonellau). Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 26 Mawrth 1974 fel papur dyddiol gwleidyddol. Mae'n cael ei ystyried yn bapur newydd safonol ac fe'i dyfynnir yn aml gan asiantaethau newyddion a chyfryngau eraill.
Sefydlwyd y papur gan Talal Salman yn 1974 fel llais annibynnol i'r adain chwith pan-Arabaidd a oedd yn gynyddol weithgar ac amlwg ym mywyd gwleidyddol a deallus Libanus. Ei amcan oedd "bod yn bapur newydd y byd Arabaidd yn Libanus, a phapur newydd Libanus yn y byd Arabaidd". Erys hyn fel arwyddair ar flaen y papur.
Yn olygyddol, mae'n gogwyddo tuag at Syria a gwleidyddiaeth seciwlar gyda'r pwyslais ar undod y gwledydd Arabaidd yn wyneb imperialaeth.
Mae'r apapur yn aelod o'r Arab Press Network, rhwydwaith sy'n hyrwyddo gwasg gryf annibynnol yn y byd Arabaidd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Arabeg) Gwefan As-Safir