Arthur Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite
Arthur Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ebrill 1859 |
Bu farw | 13 Mawrth 1937 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite |
Mam | Katherine Walsh |
Priod | Clementine Pratt |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria |
Roedd Arthur Henry John Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite GCVO (10 Ebrill 1859 –13 Mawrth 1937) yn wleidydd ac yn ŵr llys a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Faesyfed o 1885 i 1892.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Walsh yn Llundain ym 1859 yn fab hynaf yr 2il Farwn Ormathwaite a'i wraig, Katherine, merch y 7fed Dug Beaufort. Roedd teulu Walsh yn berchen ar ystâd Nantgwyllt, Rhaeadr Gwy. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton.
Ar 26 Gorffennaf, 1890 priododd a'r Ledi Clementine Pratt, unig ferch 3ydd Ardalydd Camden.[1] Ni chawsant blant.
Gyrfa filwrol
[golygu | golygu cod]Ym 1876 cafodd ei gomisiynu'n Ail Is-gapten ym Milisia Cyffinwyr De Cymru, gan gael ei ddyrchafu'n Is-gapten yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Ym 1878 trosglwyddodd i'r fyddin barhaol fel Ail Is-gapten yn y Life Guards. Ymadawodd a'r fyddin barhaol ym 1887 a daeth yn Ail Is-gapten yng Nghatrawd Iwmyn Dwyrain Swydd Caint gan wasanaethu hyd 1890.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Safodd Walsh yn etholaeth Sir Faesyfed yn enw'r Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol 1885 gan gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Ryddfrydol. Fe fu ei daid John Benn Walsh, Barwn 1af Ormathwaite, a'i dad Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite yn ASau Ceidwadol yr etholaeth o'i flaen[2]. Cadwodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1886[3] cyn cael ei drech gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Francis Edwards ym 1892. Etifeddodd Walsh teitl ei dad yn 1920 gan gael ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi lle fu'n aelod hyd ei farwolaeth ym 1937, gan nad oedd ganddo blant cafodd y teitl ei basio i'w frawd, George. Gwasanaethodd fe Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed 1918-1921[4]
Gyrfa fel Gŵr llys
[golygu | golygu cod]Ym 1892 fe'i penodwyd yn Gwastrawd wrth aros i'r Frenhines Victoria. Ym 1897 cafodd ei benodi'n Ddistain yr Aelwyd i Mari, Duges Teck; bu hi farw'n ddiweddarach yn yr un flwyddyn a chludodd Walsh ei choron yn ei hangladd. Gwasanaethodd fel Ystlyswr Bonheddig (1902-1905) a Gwas Wrth Aros (1905-1907) i'r Brenin Edward VII ac roedd yn Feistr y Seremonïau[5] o 1907 i 1920. Cafodd Walsh ei benodi'n Aelod o Urdd Frenhinol Fictoria ym 1907 (MVO); cafodd ei ddyrchafu'n Gadlywydd yr urdd (CVO) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1910, Marchog cadlywydd ym 1912 (KCVO) a Marchog y Groes Fawr (GCVO) ym 1920.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Green-Price |
Aelod Seneddol Sir Faesyfed 1885 – 1892 |
Olynydd: Francis Edwards |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Arthur Walsh |
Barwn Ormathwaite 1920 – 1937 |
Olynydd: George Walsh |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Powlett Milbank |
Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed 1918 - 1922 |
Olynydd: Charles Coltman-Rogers |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Welcome Home to the Hon Alfred Walsh MP", Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser, 17 Hydref 1890 [1] adalwyd 26 Chwefror 2015
- ↑ "Parliamentary History of Radnorshire", Cardiff Times, 3 Chwefror 1894 [2] adalwyd 26 Chwefror 2015
- ↑ "Radnorshire", Aberystwyth Observer, 10 Gorffennaf 1886 [3], adalwyd 26 Chwefror 2015
- ↑ "Personal", Llangollen Advertiser, 5 Ebrill 1918 [4], adalwyd 26 Chwefror 2015
- ↑ "King Albert's Birthday", Abergavenny Chronicle, 16 Ebrill 1915 [5], adalwyd 26 Chwefror 2015