Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite

Oddi ar Wicipedia
Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite
Ganwyd14 Ebrill 1827 Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1920 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJohn Benn Walsh, Barwn 1af Ormathwaite Edit this on Wikidata
MamJane Walsh Edit this on Wikidata
PriodKatherine Walsh Edit this on Wikidata
PlantArthur Walsh, George Walsh, Reginald Walsh, Margaret Blanche Walsh, Emily Gertrude Walsh, Edith Katherine Walsh, Charles Edward Walsh, Gerald Walsh, Guy Robert Walsh, Nigel Christopher Walsh Edit this on Wikidata

Roedd Arthur Walsh, ail farwn Ormathwaite (14 Ebrill 182727 Mawrth 1920) yn fonheddwr a thirfeddianwr yn Sir Faesyfed a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Llanllieni a Sir Faesyfed.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Walsh yn Berkley Square Llundain yn fab hynaf i John Benn Walsh, Barwn 1af Ormathwaite a'r Ledi Jane, (née Gray) ei wraig, cafodd ei fedyddio yn Eglwys Anglicanaidd St George, Hanover Square ar 18 Mai 1827[2].

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt

Ar 20 Mai 1858 yn Eglwys St George, Hanover Square priododd y Ledi Katherine Emily Mary Somerset, merch 7fed Dug Bedford[3]. Bu iddynt 10 o blant gan gynnwys [4]

  • Arthur Henry John Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite (1859–1937)
  • Yr Uwchgapten, yr Anrhydeddus Charles Edward Walsh (1862–1909), Prif Gwnstabl Heddlu Sir Benfro
  • George Harry William Walsh, 4ydd Barwn Ormathwaite (1863–1943)
  • Reginald Walsh, 5ed Barwn Ormathwaite (1868–1944)

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd yn y fyddin gan ddod yn gapten ym mataliwn 1af y Life Guards hyd 1855. Gwasanaethodd fel Cyrnol anrhydeddus 3ydd Bataliwn Cyffinwyr De Cymru

Yn ystod bywyd Syr John Benn Walsh, y Barwn cyntaf, cynyddwyd ystadau'r teulu yng Nghymru, Lloegr a'r Iwerddon yn sylweddol, ond daeth hyn i ben yn ystod stiwardiaeth yr ail farwn. Bu Walsh yn benthyca'n drwm o'r 1850au er mwyn talu am ei basiwn am hela, gan ddefnyddio ei etifeddiaeth ddisgwyliedig fel meichiafon[5]. Erbyn yr 1890au bu'n rhaid i'r Barwn dechrau gwerthu ei asedau er mwyn ceisio clirio ei ddyledion. Ym 1895 ymddangosodd o flaen yr Uchel Lys i gyflwyno deiseb o fethdaliad, a phenodwyd derbynwyr i geisio dod i delerau efo'r problemau ariannol[6].

Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed o ymddeoliad ei dad o'r swydd ym 1875[7] hyd ei ymddiswyddiad yntau ym 1895.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Llanllieni ym 1865. Pan ddyrchafwyd ei dad i Dŷ'r Arglwyddi ym 1868 ymddiswyddodd o Lanllieni a chafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol Sir Faesyfed[8] gan gadw'r sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ym 1880.

Fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad ym 1881.

Gwasanaethodd fel Cynghorydd a chadeirydd Cyngor Sir Faesyfed [9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym 1920 yn 96 mlwydd oed. Olynwyd ef yn y Barwniaeth gan Arthur ei fab hynnaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ORMATHWAITE’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 5 June 2016
  2. City of Westminster Archives Centre; Westminster Baptisms; Birth, Marriage, Death & Parish Records
  3. City of Westminster Archives Centre; Westminster Marriages; Birth, Marriage, Death & Parish Records
  4. Ormathwaite, Baron (UK, 1868 - 1984) Archifwyd 2016-04-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Mehefin 2016
  5. Walsh, Arthur John, 2nd Baron Ormathwaite (1827-1920) adalwyd 6 Mehefin 2016
  6. "MethdaliadBarwnOrmathwaite - Ye Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1895-10-25. Cyrchwyd 2016-06-06.
  7. "Notitle - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1875-04-24. Cyrchwyd 2016-06-05.
  8. "IELECTIONNEWS - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1868-05-02. Cyrchwyd 2016-06-05.
  9. "RADNORSHIRECOUNTYCOUNCIL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-03-26. Cyrchwyd 2016-06-06.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Walsh
Aelod Seneddol dros Sir Faesyfed
18681880
Olynydd:
Syr Richard Green-Price
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
John Benn Walsh
Barwn Ormathwaite
18811920
Olynydd:
Arthur Henry John Walsh
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Syr John Walsh
Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed
1875 - 1895
Olynydd:
Powlett Milbank