Ynys Arran
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Brodick |
| Poblogaeth | 4,626 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Islands of the Clyde |
| Sir | Gogledd Swydd Ayr |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 432 km² |
| Uwch y môr | 874 metr |
| Gerllaw | Moryd Clud |
| Cyfesurynnau | 55.5775°N 5.2375°W |
![]() | |
- Am yr ynysoedd yn Iwerddon, gweler Ynysoedd Arann
Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban yw Ynys Arran (Saesneg: Isle of Arran; Gaeleg yr Alban: Eilean Arainn). Saif ym Moryd Clud (aber Afon Clud). Hi yw'r seithfed fwyaf o ynysoedd yr Alban, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 5,058. Mae'r ynys yn rhan o awdurdod lleol Gogledd Swydd Ayr.
Tref bwysicaf yr ynys yw Brodick. Yma mae'r fferi'n cyrraedd o Ardrossan ar y tir mawr. Yn y bae rhwng Lamlash a Whiting Bay mae ynys fechan Eilean MoLaise (Holy Island), lle mae mynachdy Bwdhaidd. Gellir cael fferi yno o Lamlash.
Ar ddechrau'r 20g, roedd tua hanner poblogaeth yr ynys yn medru Gaeleg, ond diflannodd yn raddol dros y ganrif. Diflannodd tafodiaith unigryw Arran yn y 1970au, pan fu farw'r siaradwr olaf, Donald Craig. Mae 1.6% o drigolion yr ynys yn medru Gaeleg, ond mewnfudwyr o rannau eraill o'r Alban ydynt.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae gogledd Arran yn fynyddig. Y copa uchaf yw Gaoda Bheinn (Goatfell) (874 m,). Mae proffil y mynyddoedd gogleddol hyn o'r tir mawr yn adnabyddus fel "Rhyfelwr Mewn Cwsg" gan ei fod yn edrych fel milwr ar ei gefn a'i ddwylo ar ei fron.


Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) The Isle of Arran Tourism Directory Archifwyd 2020-12-31 yn y Peiriant Wayback
