Arpino
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Prifddinas | Arpino |
| Poblogaeth | 6,684 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Balatonfüred, Formia |
| Nawddsant | Madonna di Loreto |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Frosinone |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 56.24 km² |
| Uwch y môr | 450 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Casalattico, Casalvieri, Fontana Liri, Isola del Liri, Monte San Giovanni Campano, Sora, Broccostella, Castelliri, Fontechiari, Santopadre |
| Cyfesurynnau | 41.64705°N 13.61155°E |
| Cod post | 03033 |
![]() | |

Cymuned (comune) yn nhalaith Frosinone yn rhanbarth Lazio, canolbarth yr Eidal yw Arpino, neu Arpinum yn y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd Arpino yn y 7fed ganrif CC, a bu'n eiddo i'r Volsciaid a'r Samnitiaid cyn cael ei chipio gan y Rhufeiniaid yn 305 CC a'i gwneud yn civitas sine suffragio (dinas heb bleidlais). Rhoddwyd y bleidlais iddi yn 188 CC a chafodd statws municipium yn 90 CC.
Mae Arpino yn nodedig fel man geni dau o enwogion Rhufain, y cadfridog a gwleidydd Gaius Marius a'r cyfreithiwr, areithydd ac awdur Marcus Tullius Cicero.
Yn 2004, roedd gan y comune boblogaeth o 7,736.
