Ardaloedd ieithyddol Gwlad Belg

Oddi ar Wicipedia
Ardaloedd ieithyddol Gwlad Belg :
- Iseldireg / Fflemeg (mewn melyn)
- dwyieithog (Bruxelles-Capitale, gyda llinellau)
- Ffrangeg (mewn coch)
- Almaeneg (mewn glas)

Sefydlwyd ardaloedd ieithyddol Gwlad Belg (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Nodweddir Gwlad Belg gan raniaid ieithyddol rhwng siaradwyr Fflemeg neu Iseldireg a siaradwyr Ffrangeg, gyda nifer lawer llai o siaradwyr Almaeneg yn y dwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.

Ceir pedair o'r rhain:

  • ardal ieithyddol yr Iseldireg
  • ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
  • ardal ieithyddol Ffrangeg
  • ardal ieithyddol Almaeneg

Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:

  • y Gymuned Fflemaidd (Vlaamse Gemeenschap), yn siarad Iseldireg
  • y Gymuned Ffrengig ei hiaith (Communauté Française)
  • y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)