Ardal Castro
Gwedd
| Math | cymdogaeth |
|---|---|
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Eureka Valley, San Francisco |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.526 mi², 1.36 km² |
| Yn ffinio gyda | Diamond Heights |
| Cyfesurynnau | 37.7608°N 122.435°W |
![]() | |
Cymdogaeth yn Nyffryn Eureka yn San Francisco, Califfornia ydy'r Ardal Castro, a elwir yn aml yn Y Castro. Fe'i ystyrir gan lawer fel y gymdogaeth hoyw gyntaf, mwyaf ac enwocaf yn y byd, wedi iddo gael ei weddnewid o fod yn gymdogaeth dosbarth-gweithiol yn ystod y 1960au a'r 1970au. Mae'n parhau i fod yn symbol ac yn darddle i weithredwch a digwyddiadau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT).
