Archifau Powys
![]() | |
Math | archif rhanbarthol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandrindod ![]() |
Sir | Powys |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.237467°N 3.373217°W ![]() |
Cod post | LD1 5LG ![]() |
Rheolir gan | Cyngor Sir Powys ![]() |
![]() | |
Archifau Powys yw'r swyddfa gofnodion ac archifau sy'n darparu gwasanaethau archifol i Gyngor Sir Powys. Wedi'i leoli yn Llandrindod, mae'r archif yn gyfrifol am gasglu, curadu a chadw, ac mae'n darparu mynediad i gofnodion am briodasau, hanes teulu, adeiladau a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â'r sir ar gyfer ymchwil a defnydd personol.
Mae'r archif yn gartref i gasgliadau sydd yn dyddio o'r 14eg ganrif ac maent ar gael i'r cyhoedd yn arlein neu yn yr ystafell ddarllen yn Llandrindod.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd Archifau Sir Powys ym 1974 fel archif ar gyfer sir newydd Powys a'r tair hen sir, sef Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed.[1] Mae ei gylch gwaith yn cynnwys casglu a chadw cofnodion sirol swyddogol, archifau hanesyddol lleol a chofnodion cyhoeddus perthnasol.
Lleolwyd yr Archifau yn wreiddiol gyda phrif swyddfeydd y Cyngor Sir yn hen Westy’r Gwalia, Llandrindod, cyn symud i safle newydd pwrpasol yn Neuadd y Sir yn 1990. Ond oherwydd diffyg gofod, ym mis Hydref 2017 symudodd yr archifau i'w cartref presennol mewn uned a addaswyd yn arbennig ar Heol Ddole.[2]
Casgliadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r archifau yn cadw nifer o gasgliadau hanesyddol pwysig yn ymwneud â hanes Powys. Mae'r rhain yn cynnwys cofnodion swyddogol fel dogfennau llys sirol a sirioldeb sydd wedi'u dyddio mor bell yn ôl â'r cyfnod Sacsonaidd, cofnodion ysbytai ac awdurdodau iechyd Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, a sir fodern Powys ymhlith eraill. Mae'r archif hefyd yn darparu mynediad i ffurflenni cyfrifiad o 1841 hyd 1911 [3] a chasgliad enfawr ar hanes tai, papurau newydd lleol, mapiau, cofnodion anghydffurfwyr, cofrestrau etholwyr, rhestrau rhydd-ddeiliaid a rheithwyr,[4] gan wneud yr archifau'n boblogaidd gydag ymchwilwyr hanes lleol a theuluol.
Yn 2004 darganfuwyd nifer o gofnodion brenhinol yn yr archifau, gan daflu goleuni ar arferion ffasiwn y Frenhines Fictoria a brenhinoedd Ewropeaidd eraill.[5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Powys Archives". Archives Hub. Cyrchwyd 2023-02-09.
- ↑ "Archive centre opened by Powys council leader". Brecon & Radnor Express. 2017-10-13. Cyrchwyd 2023-02-09.
- ↑ "Census Reports". Cyngor Sir Powys. Cyrchwyd 2023-01-12.
- ↑ "Public Records". Cyngor Sir Powys. Cyrchwyd 2023-02-09.
- ↑ "'Missing' royal records revealed". BBC News. 4 October 2004. Cyrchwyd 2023-02-09.