Tesla Model X

Oddi ar Wicipedia
Tesla Model X
Trosolwg
GwneuthurwrTesla Motors
Cynhyrchu2015–presennol
Sawl blwyddyn2016–presennol
GosodFfatri geir Tesla Moters; yn Fremont, California
CynllunyddFranz von Holzhausen[1]
Corff a siasi
DosbarthCrossover SUV - car llawn ei faint
Math o gorff5-drws[2] sport utility vehicle (SUV)
PerthnasolTesla Model S
Pwer
Modur trydanDau Fodur AWD 90D
259 hp (193 kW) blaen a chefn
P90D
259 hp (193 kW) ffrynt, 503 hp (375 kW) cefn
Trosglwyddiadblwch gêr un-cyflymder trawsechel
Dim ond ar drydan90D 90 kWh (320 MJ)
257 mi (414 km) (EPA)[3]
P90D 90 kWh (320 MJ)
250 mi (400 km) (EPA)[3]
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase)120.5 in (3,061 mm)
Hyd198.0 in (5,029 mm)
Lled78.7 in (1,999 mm)[4]
Uchder66.3 in (1,684 mm)

Car trydan llawn ei faint SUV crossover ydy Tesla Model X, a gynhyrchir gan Tesla Motors. Mae ganddo ddrysau sy'n codi i fyny (falcon wing) er mwyn cael mynediad i'r ail a'r trydydd rhes o seddi ac mae'n yrriant 4-olwyn. Lansiwyd y cynlluniau yn stiwdios Tesla yn Los Angeles ar 9 Chwefror 2012.[5] Ei chwaer fach yw'r Tesla Model S.

Yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UDA (iaith wreiddiol: United States Environmental Protection Agency (EPA)) gall deithio rhwng 250–257 milltir (402–414 km) ar un llenwad o'i fatris a dywedir fod ei gyfradd milltir/galwyn (myg) ynghyd â'i ddefnydd i ynni yn gyfystyr (e) i 89 myg-e (23 kWh/100 km or 39 kWh/100 mi).[6] Yn 2016, mewn cymhariaeth, roedd y Toyota Prius yn cyflawni 95 myg-e.[7]

Ceir sawl math: 75D (tua £82,380, 90D, P90D/Ludi a'r P100D/Ludi (tua £129,080).[8]

Addasiad o'r Tesla Model S ydyw, gyda'r ddau fath yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Tesla yn Fremont, California. Dechreuwyd gwerthu Model X ym Medi 2015,[9] ac yn ystod y 12 mis cyntaf roedd tua 2,700 uned wedi'u gwerthu.[10]

O'r tu ôl.

Pris[golygu | golygu cod]

Yn 2016 roedd pris y car LE yn amrywio rhwng US$132,000 a US$144,000,[11]. Mewn cymhariaeth, pris y Model S (70D) oedd US$75,000.[12]

Batris[golygu | golygu cod]

Mae dau ddewis: batri lithiwm-ion 75 neu 90 kW·h – yr dewis a roddir i'r Model S[5]. O ran perfformiad mae'r sbec uchaf y batri gorau yn galluogi'r car i fynd o 0-60 myg (0 i 97 km/h) mewn 3.2 eiliad.[13] sy'n gyflymach na phob SUV - a llawer o geir cyflym.[3][14][15]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "2014 Tesla Model X - First Look". Road and Track. Cyrchwyd 2012-03-14.
  2. "Tesla Model X". Cyrchwyd 2015-10-07.
  3. 3.0 3.1 3.2 U. S. Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (2015-09-26). "2016 Tesla Model X AWD - 90D and P90D". Cyrchwyd 2015-10-03.
  4. "Width of Car/Parking". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-04. Cyrchwyd 2016-04-21.
  5. 5.0 5.1 Garrett, Jerry (2012-02-09). "Tesla Unveils Model X at Its Southern California Design Studios". The New York Times. Cyrchwyd 2012-02-10.
  6. U. S. Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (Medi 2015). "2016 Tesla Model X AWD 90D (90 kW-hr battery pack)". Fueleconomy.gov. Cyrchwyd 2015-09-28.
  7. Ffigyrau profi'r EPA 5-cycle; mewn dinas.
  8. Top Gear; New Car Buyer's Guide; tud 282; rhifyn Gwanwyn 2017.
  9. Mike Millikin (2015-09-30). "Tesla CEO Musk launches Model X electric SUV: "safest SUV ever"". Green Car Congress. Cyrchwyd 2015-10-03.
  10. Fehrenbacher, Katie (2016-04-11). "Tesla Recalls 2,700 Model X Cars for Seat Problem". Fortune. Cyrchwyd 2016-04-12.
  11. "Tesla Signature series Model X to begin delivery Medi 29". Reuters. CNBC. 2015-09-03. Cyrchwyd 2015-09-04.
  12. "Tesla's long-delayed Model X SUV hits the road as sales of luxury SUVs are booming". Cyrchwyd 2015-09-30.
  13. Tesla Model X vs Model S P90D Ludicrous - DragTimes 2016-02-14
  14. "Model X". Tesla Motors. Cyrchwyd 23 Awst 2012.
  15. "Tesla Model X Acceleration vs Competing SUVs (+ More Spy Pics)". Gas 2.