Methiant y galon

Oddi ar Wicipedia
Symptomau methiant y galon

Mae methiant y galon yn digwydd pan na all y galon bwmpio'n ddigonol i gynnal llif y gwaed i ddiwallu anghenion y corff[1].

Arwyddion a symptomau[golygu | golygu cod]

Mae arwyddion a symptomau cyffredin yn cynnwys diffyg anadl, gorflino a chwyddo'r coesau. Mae prinder anadl fel arfer yn waethygu gydag ymarfer corff ac, wrth orwedd. Gall y prinder anadl cadw'r claf yn effro yn y nos. Mae gallu cyfyngedig i ymarfer corff hefyd yn nodwedd gyffredin. Nid yw poen y frest, gan gynnwys angina, fel arfer yn digwydd oherwydd methiant y galon.[2]

Achosion[golygu | golygu cod]

Mae achosion cyffredin methiant y galon yn cynnwys clefyd coronaidd y rhydweli gan gynnwys cnawdnychiad myocardiaidd (trawiad ar y galon) blaenorol, pwysedd gwaed uchel, ffibriliad atrïaidd, clefyd falfiau'r galon, defnydd gormod o alcohol a chardiomyopathi o achosion anhysbys. Mae'r rhain yn achosi methiant y galon trwy newid naillai strwythur neu weithrediad y galon[3].

Mae dau brif fath o fethiant y galon:

  • methiant y galon o ganlyniad i ddiffygiad y fentrigl chwith
  • methiant y galon gyda ffracsiwn alldaliad arferol sy'n dibynnu os yw'r fentrigl chwith yn gallu crebychu, neu os yw'r galon yn gallu ymlacio.

Mae difrifoldeb y clefyd fel arfer yn cael ei raddio gan radd y broblemau wrth ymarfer corff. Nid yw methiant y galon yr un fath â thrawiad y galon (lle mae rhan o gyhyr y galon yn marw) neu ataliad y galon (lle mae llif y gwaed i'r galon yn stopio). Mae clefydau eraill a allai fod â symptomau tebyg i fethiant y galon yn cynnwys gordewdra, methiant yr arennau, problemau afu, anemia , a chlefyd thyroid.

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Mae diagnosis o fethiant y galon yn seiliedig ar hanes y symptomau ac archwiliad corfforol gyda chadarnhad ecocardiograffeg. Gall profion gwaed, ecocardiograffeg ac archwiliad radiograffeg o'r frest bod yn ddefnyddiol i bennu achos sylfaenol y cyflwr.

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Mae triniaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb ac achos y clefyd.

Yn achos cleifion sydd â methiant calon ysgafn sefydlog cronig, mae'r driniaeth cyffredin yn cynnwys addasiadau ffordd o fyw megis atal ysmygu, ymarfer corff a newidiadau dietegol, yn ogystal â meddyginiaethau[4] .

Yn achos cleifion sydd â methiant y galon oherwydd diffygion fentriglaidd chwith argymhellir defnyddio atalyddion trawsnewid ensym angiotensin neu atalyddion derbyn angiotensin ynghyd â atelyddion beta. I'r sawl sydd a chlefyd difrifol gellir defnyddio gwrthweithyddion aldosteron neu  hydralasin gyda nitrad

Gall cyffuriau diwretig bod o fudd i atal cronni hylif. O ystyried achos yr haint gall dyfais mewnblannu fel rheoliadur neu diffibriliwr cardiaidd bod o fudd. Mewn achosion cymedrol neu ddifrifol gall therapi cydamseru'r galon bod o fudd. Yn yr achosion mwyaf difrifol hwyrach bydd angen drawsblaniad calon.

Cyffredinoled[golygu | golygu cod]

Mae methiant y galon yn gyflwr cyffredin a chostus i wasanaethau iechyd a allai fod yn angheuol. Yn 2015 effeithiodd ar tua 40 miliwn o bobl yn fyd-eang. Mae gan tua 2% o bobl y byd methiant ar y galon, tua 6 i 10% o bobl dros eu 65 mlwydd oed. Mae tua 30,000 yn dioddef o'r cyflwr yng Nghymru[5]

Yn y Deyrnas Unedig methiant y galon yw'r rheswm am dros 5% o ymweliadau i adrannau brys yspytai.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]